HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Garn (Rhinogydd) 16 Medi


Daeth ugain ohonom ynghyd yng Nganllwyd ar gyfer cerdded i ben Y Garn, ac ar ddiwrnod dathlu Owain Glyndwr cafwyd cynrhychiolaeth o un pen i Gymru i’r llall. Daeth Eurig o Sir Gaerfyrddin, Digby, Huw a Lisa o Geredigion, Eryl, Margiad, John Arthur, Gwyn (Llanrwst) ac Eifion o Sir  Conwy, Alice o Ynys Môn ac Erwyn J., Dafydd, Siân, Gwyn (Chwilog), Gwen, Hefin, Morfudd, Sioned, Iolyn a minnau o Wynedd.

Gyda’r cymylau wedi dod i lawr dros y copaon, cerddasom i fyny’r ffordd sy’n cychwyn gerllaw gwesty Ty’n y Groes, a throi oddi ar honno am y bont sy’n croesi Nant Las am hen waith aur Cefn Coch. Hwn oedd y trydydd gwaith aur mwyaf cynhyrchiol yn Nyffryn Mawddach rhwng 1860 ac 1914. Adeiladwyd y felin drawiadol rhwng 1875 ac 1877. Ymlaen i fyny wedyn heibio’r olion cloddio, i fyny at lefel uchaf y gwaith, ble y cafwyd paned a mwynhau’r olygfa oedd i’w gweld. Ar ôl gadael y ffridd , ‘roedd y tirwedd yn newid i fod yn fwy creigiog a grugog gyda chamfa uchel i fynd dros un o waliau cerrig uchel nodweddiadol yr ardal. Wrth gerdded yn uwch, ‘roeddem yn cerdded i mewn i’r niwl, ac oherwydd hyn arhoswyd ar y copa i gael llun grŵp yn unig, gan ddisgyn i gael cysgod wal y mynydd rhag y gwynt, i fwyta ein cinio, a  ‘doedd dim golygfa i’w gweld beth bynnag.

Daethom i lawr o’r mynydd trwy droi tuag at y grib sy’n arwain i lawr tuag at Foel Ispri, gan ei dilyn i’r gwaelod.’Roedd sawl camfa ar y darn hwn o’r daith, a’r gyntaf ohonynt yn un uchel gyda’r ris isaf yn edrych yn simsan iawn. Rhoddwyd rhybudd i bawb i beidio â rhoi gormod o bwysau ar hwn, ond mi wnaeth un (na chaiff ei enwi yma), a malu a wnaeth y gris! Diolch byth fod y mwyafrif wedi dod drosodd cyn i hyn ddigwydd! Braf oedd gallu gweld aber y Fawddach wrth ddod lawr yn is.

Nid aeth unrhyw un i ben Moel Ispri, felly, wedi ceisio camu dros y mannau gwlyb ar waelod y grib, rhaid oedd troi yn syth i’r chwith i gychwyn ar ran olaf y daith yn ôl i Ganllwyd. ’Roedd y llwybr cyntaf yn ein harwain i mewn i’r goedwig ac yn dod allan o’r coed cyn Ty’n y Llwyn. Wedyn, cyrraedd ffordd a cherdded arni am sbel byr iawn cyn troi cyn troi eto ar lwybr arall trwy goedwig. Ymunwyd â llwybr arall oedd yn mynd heibio Hafod y Fedw, tŷ sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dilynwyd y ffordd sy’n dod i fyny at y tŷ, cyn troi am lwybr arall oedd yn mynd heibio Tyddyn Bach ac yn ein harwain i mewn i goedwig unwaith eto. ‘Roedd y llwybr hwn yn ymuno â’r ffordd y cychwynasom arni yn y bore. Braf oedd cael cwmni y mwyafrif oedd ar y daith, yng ngwesty Ty’n y Groes wedyn i fwynhau diod neu baned gyda chacen.
 
Diolch i bawb ddaeth ar y daith am eu cwmni difyr yn ystod y dydd. Diolch i Margiad a Gwen am ddod gyda mi yn ystod y teithiau paratoi.

Adroddiad gan Eirlys Wyn Jones.

Lluniau gan Sioned ar FLICKR