HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Dolwyddelan 13 Medi


Cyfarfu 23 ohonom yn Nolwyddelan (Dol Gwyddelan) ar ddiwrnod braf a thywydd delfrydol ar gyfer cerdded. Anelu at gyfeiriad Cwm Penamnen gan droedio ar Sarn Helen, sef y ffordd Rufeinig oedd yn cysylltu Caerhun yn Nyffryn Conwy gyda Thomen y Mur ger Trawsfynydd ac ymlaen ymhellach i’r de.

Daethom at adfeilion Tai Penamnen; yn eu plith mae annedd a godwyd gan Maredudd ap Ieuan, un o hynafiaid y teulu Wynn o Gastell Gwydir. Yng Nghastell Dolwyddelan yr oedd Maredudd yn byw ar ddiwedd y 15fed ganrif, ond wedi tadu 20 o blant, mae’n debyg bod y castell yn rhy fach a symudodd y teulu i Benamnen. Mae yna fwrdd dehongli diddorol yma yn olrhain datblygiad y tai dros y canrifoedd.

Ymlaen â ni yn sŵn byrlymus afon Cwm Penamnen i gyfeiriad pella’r cwm deniadol yma cyn troi i’r dde ac anelu’n serth i fyny. Cyn croesi’r gamfa wrth odre Pen y Benar cawsom egwyl fer i edmygu’r olygfa o’n cwmpas: Y Ro Wen, Moel Farlwyd, Moel Penamnen a Chwareli’r Blaenau yn gwarchod y man tawel yma.

A dyma ddarlun newydd yn agor o’n blaenau i lawr dyffryn arall, - pawb yn estyn am eu ffôn i dynnu llun o’r olygfa banoramig - Moel Siabod i’r gogledd, y Glyderau a’r Wyddfa tua’r gorllewin. Dilynwyd llwybr clir sy’n disgyn yn raddol o’r ucheldir a sylwi ar olion bythynnod cerrig a fu yn eu tro yn gartrefi. Yna daeth tŵr castell Dolwyddelan i’r golwg, - golygfa drawiadol arall, a llecyn braf dros ben i gael seibiant. Wrth sgwrsio dros ginio clywem sŵn ceir yn gwibio ar hyd yr A470 a gwelem afon Lledr ar waelod dyffryn Cwm Mynhadog (sef enw gwreiddiol Pont Rufeinig). Yr Athro Gwyn Thomas sy’n deud yn ei lyfr hunangofiannol: ‘Gyda dyfodiad yr Americaniaid i’r ymladd (cyfeirio at yr Ail Ryfel Byd y mae yma) daeth gwersyll ohonyn nhw i Gwm Mynhadog (Roman Bridge) yr ochor arall i Fwlch Gorddinan (y Crimea).

Ymlaen â ni gan ddilyn afon Hafod Llian drwy goedlan hynafol, croesi’r A 470, heibio’r orsaf a dros y bont reilffordd gan oedi yma yng Nghwm Mynhadog ar bont afon Lledr i ryfeddu at brydferthwch y dirwedd. Ymlaen â ni a throi i’r dde ym muarth Fferm Pen Rhiw ac yna cyrraedd y castell - golygfa ddramatig gyda’r mynyddoedd geirwon yn gefnlen drawiadol. Roedd castell Dolwyddelan yn un o gadarnleoedd Cymreig y Gogledd ac fe’i hadeiladwyd gan Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr. Bu’n lecyn strategol yn gwarchod llwybrau drwy’r mynyddoedd i’r ddau Lywelyn yn erbyn byddin Breninhoedd Lloegr. Wedi gadael y castell aethom yn ôl i Ddolwyddelan gan alw yn Y Gwydyr am ddiod a chacen wedi diwrnod pleserus.

Diolch am gwmni Rhiannon, Paula a Gwyn, Iolyn, Eryl ac Angharad, Rhiannon a Clive, Buddug, Anet, Rhian, Gwen, Gwenan, Ann, Richard, Gareth, John Arthur, Iona, Nia Saron, Margiad a heb anghofio Winnie a Meirion oedd yn bugeilio o’r cefn.

Adroddiad gan Nia

Lluniau gan Nia, Rhiannon a Gareth ar FLICKR