HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Drum o Ddyffryn Conwy 12 Gorffennaf


Cafwyd taith i gopa’r Drum o ardal Abergwyngregyn fis Mehefin felly tro Dyffryn Conwy oedd hi mis Gorffennaf. Cyrhaeddodd pawb y man cyfarfod ger pentref Talybont yn brydlon ac aethom i fyny yn y ceir i’r man cychwyn ym Mwlch y Gaer. Sawl un yn ei weld yn syniad da gwneud y rhan fwyaf o’r dringo mewn cerbyd!

Er fod disgrifiad y daith yn addo ymweld â bryngaer Pen y Gaer yn gyntaf, cytunwyd i wneud hynny yn olaf felly dyma gychwyn am ein copa cyntaf, sef Penygadair. Oddi yno cawsom olygfa odidog o fynyddoedd  gogledd-ddwyrain Eryri – o Greigiau Gleision yr holl ffordd o gwmpas y Carneddau draw at Dalyfan. Ymlaen wedyn i’r ail gopa, sef Pen y Castell, a chael seibiant haeddiannol am baned.

Ar y cymal nesaf am Foel Lwyd roedd yn hyfryd taro ar glwstwr o ferlod mynydd. Bu’r ceffylau gwyllt hyn, sy’n unigryw i’r Carneddau, yn pori ar lethrau’r mynydd ers canrifoedd. Dim ond darn bach o godi oedd yna wedyn cyn cyrraedd copa’r Drum a phawb yn gwasgu i mewn i’r gorlan gysgodi am damaid o ginio.  Carnedd Penyborth Goch ydi’r hen enw ar y Drum ac yn ôl Coflein mae’r gysgodfan wedi ei chodi ar safle hen garnedd sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd.

Carnedd arall o’r un cyfnod, sydd hefyd wedi ei haddasu’n gysgod i gerddwyr, ydi Carnedd y Ddelw ac yno aethom nesa’ gan frwydro yn erbyn gwynt cryf, annisgwyl. ‘Roedd yn braf cael troi’r gongl a disgyn i lawr i Fwlch y Ddeufaen. Dilyn y lôn wedyn i lawr at hen bont fach hardd dros yr Afon Ro. Gelwir hon yn Bont Rhufeinig ond mae peth ansicrwydd ynglŷn â’i hunion oed.  Ymhen dim roeddem yn troi i ffwrdd at lwybr troed oedd yn ein harwain yn ôl i Fwlch y Gaer a’r ceir. Wedi 6 awr o daith penderfynwyd yn unfrydol gadael yr ymweliad â Phen y Gaer at ddiwrnod arall!

Diolch i’r 17 oedd wedi mentro allan (Eirlys, Gwen, Anet, John Parry, Gwynfor, Gwyn Llanrwst, John Arthur, Clive, Rhiannon, Dafydd Dinbych, Winnie, Meirion, y ddwy Nia Wyn, Gwyn Chwilog, Lois ac Aran) am eu cwmni difyr, i Aneurin am arwain y ffordd a thynnu lluniau ac i’r glaw am gadw draw drwy’r dydd.

Adroddiad gan Dilys

Lluniau gan Aneurin ar FLICKR