HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dyffryn Wysg o Grughywel i Langynidr 9 Rhagfyr


Daeth 12 o fynyddwyr dewr at eu gilydd ym maes parcio yng Nghrughywel ar gyfer ein taith Nadolig flynyddol. Roedd pawb yn drist i weld bod dim un Gog yn ein mysg eleni, ond dyn ni’n gwybod bod nhw braidd yn “sofft”! Yn sgil rhagolygon erchyll am wyntoedd tymhestlog roedd rhaid rhoi gorau’r i’r cynllun gwreiddiol i ddringo Pen y Fal. Yn lle hynny cymeron ni ffordd fwy cysgodol ar lan Dyffryn Wysg o Grughywel i Langynidr (rhyw 12 milltir) Ond peidiwch a meddwl fod hon yn ffordd symlach! Roedd hi’n mynd yn igam-ogam rhwng y gamlas, yr afon a’r caeau gan ddringo rhyw 330 m – a gan bod yr arweinydd ddim wedi gwneud y daith ers 5 mlynedd a ddim wedi cael amser i wneud “recce”, roedd digon o gyfle i fynd ar goll. Yn y diwedd chymeron ni ddim mantais o’r cyfle hwn, ond roedd pen yr arweinydd yn ddwfn yn y map am gyfnodau hir. Ar y ochr bositif,  doedd y tywydd ddim hanner cynddrwg a’r disgwyl – bron dim glaw trwy gydol y dydd a’r gwynt dim yn codi tan y prynhawn.

Dechreuon ni drwy gerdded drwy’r dre i groesi Pont Crughywel (y pont faen hiraf yng Nghymru!). Wedyn lan at Gamlas Brycheiniog a Threfynwy. Ar ôl dilyn y gamlas am rhyw 25 munud, croeson ni un o’r pontydd bach niferus a dringon ni drwy’r caeau, gan groesi nentydd bach at ein huchafbwynt o rhyw 300 m, lle gaethon ni baned. I lawr wedyn tuag at Langynidr, gan ailymuno â’r gamlas am y chwarter awr olaf cyn y pentref. I lawr eto at yr afon Wysg, oedd yn llawn ac yn frown ac yn wyllt. Dilynon ni’r afon ar lwybr cul nes cyrraedd craig (eitha) wastad uwchben y dŵr swnllyd. Ar ôl cael cinio fan hyn, ceision ni dilyn yr afon ym mhellach ond ar ôl llai na ddeng munud oedd rhaid troi yn ôl gan fod y llwybr wedi’i orlifo. Felly collon ni rhyw hanner awr wrth fynd yn ôl at y bont a dilyn ffordd uwch drwy’r caeau – ffordd newydd hyd yn oed i’r arweinydd – ond ffordd ddiddorol oedd yn mynd trwy sawl hen fferm swmpus. Cyrhaeddon ni bentrefyn bach â’r enw rhyfedd, “Cyffredin”, oedd eto yn llawn hen dai diddorol. Wedyn i fyny i groesi’r gamlas eto a chodi drwy’r caeau i gyfeiriad Crughywel.

Tua’r adeg yma dechreuodd pobl sylwi ar sawl celynnen llawn aeron a hyd yn oed uchelwydd llawn aeron. Manteisiodd y rhan fwyaf o’r cerddwyr ar rhain yn didrugaredd. Erbyn hyn roedd hi’n dechrau nosi a phenderfynodd yr arweinydd doeth gwtogi’r daith o ryw chwarter awr drwy ddisgyn at y gamlas ychydig yn gynt a’i dilyn yn ôl i bentref Llangatwg (ochr arall yr afon i Grughywel), lle ffeindion nhw dafarn hyfryd â chwrw Butty Bach. Does neb yn cofio gweddill y daith, ond llwyddon ni i gwrdd cyn saith am swper mawreddog yng Ngwesty’r Bear yng Ngrughywel yn ôl y ein harfer.

Adroddiad gan Richard Mitchley.

Lluniau o'r daith gan Dewi Hughes ar FLICKR