HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Her y pymtheg copa 8 Gorffennaf


Ar ôl cael tywydd difrifol ar gyfer taith 15 Copa 2022, roedd mawr obeithio y byddai r tywydd ddim yn gymaint o boen meddwl yn y dyddiau cyn y daith eleni. Yn anffodus nid dyna fel oedd hi ac mi dreuliais oriau yn sbio ar ragolygon y tywydd unwaith eto. Y bwgan eleni oedd y rhagolygon am wyntoedd cryfion yn y 2-3 awr ar ôl iddi wawrio. Felly, ar ôl ystyried yn ofalus, dyma newid y cynllun a cychwyn y daith am 5:30 yn lle 3:00. Roedd osgoi tywydd garw y bore yn golygu y byddem ar y Carneddau yn hwyr ond roedd hi n addo noson braf ac roedd hyn yn well na bod ar Crib Goch a gwyntoedd yn hyrddio yn agos at 60mya.

Roedd pawb yn eitha hapus efo r trefniant newydd, mwy o gwsg cyn cychwyn! Efo help Gerallt i gludo r criw dyma gyfarfod a cychwyn o Pen y Pass am 5:30. Y criw hwyliog yn cynnwys Anna, Sandra, Erwyn, Siôn a Catrin Meurig yn ymuno efo ni i gael seibiant o i ymdrechion ar y cyfandir.

Cawsom fore braf a heulog i fynd dros Crib Goch ac heblaw am ambell i hyrddiad roedd y gwynt wedi gostegu yn ôl y rhagolygon. Ymlaen wedyn dros Crib y Ddysgl ac am Yr Wyddfa oedd yn gwisgo ei chap anochel o niwl y bore bach. Ar ôl y llun gorfodol ar y copa dyma droi a ‘nelu lawr am Nant Peris. Yn anffodus doedd Anna a Sandra heb ddarllen y memo mai dilyn llwybr Llanberis sy’n digwydd ar y 15 copa. Difyrrwch a dirgelwch ydy sut y llwyddodd y ddwy i ddiflannu o ganol y grŵp a i heglu hi lawr llwybr PYG, ond diolch byth am ffôn symudol. Llwyddwyd i gael gafael ar y ddwy fel yr oeddent yn cyrraedd gwaelod yr igam ogam. O canlyniad gall Anna a Sandra hawlio diwrnod hirach na phawb arall ar y 15 Copa yma!

Wrth ddod lawr y tir serth am Nant Peris dyma ni n sbotio dau yn dod tuag atom a hawdd oedd ‘nabod esgidiau oren llachar Sonia o bell. Roedd Gethin a Sonia wedi bwriadu dod ar y daith ond wedi methu oherwydd galwadau gwaith. Er nad oeddan nhw yn medru gwneud y daith i gyd roeddent wedi dod i n cefnogi dros cymal y Glyderau.

Ar ôl cyfarfod Gerallt yn Nant Peris ac ail lenwi ein poteli a bagiau bwyd dyma gychwyn y slog i fyny Elidir Fawr sydd siŵr o fod y ddringfa fwyaf undonog os nad y galetaf o r daith i gyd. Ymlaen wedyn dros Y Garn a r Glyderau efo r cymylau wedi clirio erbyn hyn. Cawsom gopa Tryfan i ni ein hunain sydd yn beth eithaf anarferol dyddiau yma.

Roedd pawb yn falch o weld Gerallt yn Glan Dena gan ein bod ni gyd wedi hen orffen ein bwyd a diod ac roedd cael sanau glan yn bleser pur. Ar ôl ffarwelio efo Gethin a Sonia dyma gychwyn am y ddringfa hir olaf efo pawb wedi adfywio er ei bod erbyn hyn yn tynnu am 8:30yh. Fel roedden yn cychwyn cafodd Sandra alwad ffôn, Ariannell yn holi beth oedd ein hanes ac wrth ffarwelio yn deud Mam peidiwch a neud gormod”, roedd pawb yn cytuno bod hi n llawer rhy hwyr i wrando ar y cyngor yna.

Cyrhaeddom gopa Pen yr Ole Wen fel roedd hi n machludo a chael y wefr o weld Eryri efo Apline Glow , y creigiau yn binc a goleuadau Bethesda oddi tanom. Roedd rhaid defnyddio lampau pen i fynd ymlaen i gyfeiriad Carnedd Dafydd a dros Ysgolion Duon, diolch am gymorth Garmin o fan hyn ymlaen.

Roedd hi wedi hanner nos arnom ar gopa r Elen a blinder yn dechrau deud. Efo egni yn pylu mi ddaru Catrin gynnig gel egni i un o r criw nath ofyn ar lle dwi fod i rwbio hwn” gewch chi ddyfalu pwy a rwbio n lle. Ar ôl mynd dros Carnedd Llywelyn a mynd am Foel Grach cawsom seibiant yn y cwt. Doedd Catrin erioed wedi bod yn y cwt ac yn siŵr o fod yn eithaf siomedig o’i gymharu a’i phrofiad yn yr Alpau. Er ei fod yn lle mor llwm roedd y nesa peth i awyrgylch parti yn y cwt, cyfuniad o flinder, pawb ychydig bach yn lloerig ac yn gwledda ar Haribos a Paracetamol bob yn ail – roedd hi fel stop tap nos Sadwrn heb yr alcohol.

Er gwaetha r awyrgylch rhaid oedd ail afael yn y daith a mynd am y ddau gopa olaf. Cawsom llun efo r faner Yma o Hyd ar Foel Fras, ein copa olaf cyn cychwyn lawr. Erbyn cyrraedd ffordd Llyn Anafon roedd y wawr ar dorri ac eto oherwydd y blinder roedd ambell un wedi drysu Gogledd a Dwyrain ond wrth i r awyr lasu go iawn buan daeth pawb at eu coed a medru diffodd y lampau pen. Wrth gerdded y filltir olaf roedd siarad am be oedd pawb yn mynd  gael ar ôl cyrraedd adra, can o gwrw, prosecco ayb cyn sylweddoli y byddai yn 6:00yb erbyn hynny.

Profiad gorfoleddus oedd cyrraedd y maes parcio ac estyn y faner Yma o Hyd unwaith eto ar gyfer llun olaf y daith, erbyn hyn mi oedd hi’n 4:30yb. Pawb wedi cyrraedd a pawb wrth eu boddau ac wedi gwireddu rhywbeth  yr oeddent wedi bod eisiau ei wneud ers blynyddoedd.

Roedd hi n fraint i mi gael arwain criw mor hwyliog a gweld eu dycnwch a’u dyfal barhad. Diwrnod bythgofiadwy efo lot o hwyl a chwerthin er y poen a r blinder. Diolch i pawb.

Adroddiad gan Dwynwen

O.N. Mae’r Clwb am ddefnyddio trefn graddio teithiau ond efallai bod taith y 15 copa yn haeddu rhybudd iechyd go ddifrifol! Mae’r llun olaf yn amlygu hynny - Anna yn lledan! Da clywed ei bod yn iach fel cneuen erbyn hyn!

Lluniau gan Dwynwen, Anna, Sandra, Catrin, Siôn, Erwyn a Sonia ar FLICKR