HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Nefyn-Taith Dathlu Dolig 6 Rhagfyr


Yn lwcus iawn cafwyd bore braf yng nghanol tywydd mawr i wneud taith hyd lwybrau plwyf yng nghyffiniau Nefyn ar daith dathlu’r Dolig. Dilynwyd amryfal lwybrau o faes parcio Gwesty Bryn Noddfa trwy gaeau Botacho Wyn a Ddu, ble cynhaliwyd twrnameint gan Edward 1 i ddathlu ei oresgyniad dros y Cymry yn 1282.

Codi wedyn hyd ochrau Mynydd Nefyn a chael golygfa wych o wlad Llŷn i’r gorllewin a bae Nefyn a Phorthdinllaen oddi tanom. Dilyn Llwybr yr Arfordir yn ôl i dref Nefyn a cherdded hyd ben yr allt gan sylwi ar dai mawr adeiladwyd gan yr hen gapteiniaid  llong oedd yn byw yno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd ffyniant mawr yn y dref. Mae cofnod o dros gant a hanner o gapteiniaid llong yn y fynwent leol.

Troi wedyn hyd lwybr penclawdd am Bwll Wiliam neu Bwll Pen yr Allt y cyfeirir ato gan J. Glyn Davies yn ei gerdd Y Sgwner Tri Mast. Yno doi’r capteiniaid slawer dydd gyda’u modelau o longau hwylio gan ddefnyddio’r pwll i’w rasio hyd-ddo ac ymgolli yn eu hatgofion am y môr.

Diflanodd y tai, ni welwn Fynydd Nefyn,
Nid Pwll Pen yr Allt oedd y dyfroedd ond y môr;
Nid pabwyr a welwn ar dorlan gyferbyn,
Ond palmwydd urddasol ar draeth Singapôr.

Roeddem yn ôl yng nghlydwch y gwesty toc wedi un ac yn claddu i wledd wedi ei pharatoi gan Huw yn ogystal â chael gwerthfawrogi ei ddawn gerddorol ar y piano.

Y criw fu’n cerdded oedd: Alun Y Gelli, Iolo ap Gwynn, Arwyn, John Parry ,Gwyn Chwilog, Huw a Richard Bethesda, Rhiannon, Clive ac Ifor, Meic Raymant, Gareth Tilsley, Anet, Rhian Davies, Gwenan, John Arthur.

Adroddiad gan Gwenan Roberts.

Lluniau o'r daith gan Gwenan, Anet, Gareth a Iolo ar FLICKR