Rhwng Nedd ac Afan 23 Ebrill

  
Os ydi’r Rhinogydd yn anial a  thawel(adroddiad taith 18 Ebrill) yna yn sicr mae’r disgrifiad yn wir hefyd am  gopaon a chefnennau blaenau cymoedd Morgannwg o ran cerddwyr beth bynnag. Roedd  ein llwybr wrth godi o Gwm Afan dros Graig Gyfylchi drwy’r goedwig yn croesi  llwybrau beicio mynydd ac mi welson ni ambell un o’r rheini. Roeddan nhw’n cael  mwy o drafferth na ni os rhywbeth ar ambell i allt serth!
      
      Ennyd fer lle mae olion hen gapel Gyfylchi  sy’n adfail ers blynyddoedd maith a chyn hynny roeddem wedi mynd heibio’r  agoriad i dwnnel yr hen rheilffordd oedd yn arfer cario  glo i lawr i borthIadd Britton Ferry ger  Llansawel. 
      
      Teithio i lawr wedyn i Gwm Pelenna a dilyn  llwybrau droediwyd ar un o deithiau’r Clwb union dair blynedd ar ddeg yn  ôl!  Y newid mwyaf oedd bod rhai llethrau  o goed conwydd wedi eu clirio a’u hailblannu’n gymharol ddiweddar gan ddatgelu  natur greigiog llawer o’r llechweddau uchaf.   Roedd melinnau gwynt uwch ein pennau ar y copaon ond dim enaid byw i’w  cyfarch yn unman. 
      
      Mae’r gorffennol yn agos iawn ym mlaennau’r  cwm yma a llawer cwm arall – hen waliau cerrig oedd yn ffin i’r hen ystadau  mawr cyn i’r coed eu disodli rhyw ganrif yn ôl. Shafftiau glo a llwybrau hen  reilffyrdd angof wedi eu haddasu i ni’r cerddwyr – rhai’n dyddio o ddechrau’r  19ganrif. 
      
      Cawsom hoe wrth edrych i lawr y cwm ar y gwlypdiroedd  brwyn oedd wedi eu creu dros ugain mlynedd yn ôl (y cyntaf yn Ewrop) i geisio  lleddfu’r llygredd o’r hen byllau a siafftiau glo. Roedd yna haearn yn y gwythiennau  glo hefyd ac mae’r dŵr yn asidaidd iawn yn y blaen nentydd ac yn effeithio’n  andwyol iawn ar y bywyd gwyllt. Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn ac  wedi ei fabwysiadu ar draws y byd erbyn hyn.  
      
      Wedi codi o Gwm Pelenna roeddem ar y gefnen  ac yn edrych dros Gwm Nedd a thua’r gorllewin a’r gwynt yn cryfhau’n arw. Ennyd  arall wrth adfeilion hen gaer Rufeinig er nad oes llawer i’w weld bellach. Ei  throedio hi wedyn ar hyd hen ffordd drol i lawr Cwm Gwenffrwd heibio pentref  Tonmawr ac olion hen bwll arall a sawl tomen lo wedi eu hadfer. Croesi’r afon a  trwy rhyw ryfedd wyrth dod o hyd i ben arall yr hen dwnnel yn y drysni! Codi  eto i ben Craig Gyfylchi ac i lawr i Gwm Afan a’r man cychwyn yng Nghanolfan  Afan Argoed. 
      
      Diolch am gwmni Alison, Bruce, Dewi, Elin,  Eurig, Lynwen, Meirion, Pens, Pwt, a Rhun fy nghyd arweinydd a’n hanesydd  lleol. Er i mi ddweud 9 milltir, roedd y rhai â’r teclynnau diweddaraf yn  dadlau â’i gilydd ei bod rhwng 11 a 12 milltir neu 18 cilomedr. Pwy a ŵyr!!  
      
    Adroddiad gan John              
Lluniau gan Dewi ar FLICKR
