HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa a’r Moelydd 20 Mawrth


Gwynt digon oer groesawodd y deuddeg ddaeth i’r lle parcio ger hen chwarel Cefn-du ger Waunfawr ond gan fod haul ac awyr glir hefyd roedd pawb yn edrych ymlaen at gyrraedd copa’r Wyddfa ar hyd un o’r llwybrau llai poblogaidd.

Roedd amryw ar lethrau Moel Eilio a nifer ohonynt yn rhedeg; ai hwn yw’r mynydd lle rydach chi fwyaf tebygol o glywed Cymraeg, gan ei fod mor boblogaidd gan bobl leol? Wedi seibiant ar gopa’r uchaf (726 m) o’r Moelwynion hyn i gael paned a mwynhau’r golygfeydd trawiadol tua dyffryn Peris a’r Glyderau ar y naill law a Mynydd Mawr a Chrib Nantlle ar y llaw arall, aed i lawr i Fwlch Cwm Cesig cyn codi eto dros gopaon Foel Gron a Foel Goch ac yna disgyn yn serth i Fwlch Maesgwm, 467 m – dim ond tua 100 m yn uwch na man dechrau’r daith!

Tipyn o chwysu wedyn i fyny’r ysgwydd sydd â’r enw Bwlch Carreg y Gigfran i gopa Moel Cynghorion cyn disgyn unwaith yn rhagor i Fwlch Cwm Brwynog – dim ond tua 30 m yn uwch na Bwlch Maesgwm.

Roedd yn dipyn prysurach wedyn gan ein bod yn dilyn Llwybr Cwellyn (y Snowdon Ranger) am ran olaf y daith gyda chreigiau Clogwyn Du’r Arddu ar y chwith. Manteisiwyd ar ddoethineb y Cadeirydd i grwydro ychydig oddi ar y llwybr cyn cyrraedd y copa i gael cinio hwyr mewn man cysgodol o dan waliau’r hen stablau ger y rheilffordd. Cyrhaeddwyd y copa tua dau o’r gloch; er bod nifer yno doedd hi ddim mor brysur â’r disgwyl.

Llwybr Llanberis oedd y ffordd i lawr a chyn cyrraedd Bwlch Glas roedd arogl cryf rhyw fwg drwg yn amlwg iawn; clywyd wedyn gan eraill oedd i fyny ychydig yng nghynt bod criw wedi cael parti yno, yn yfed, smocio a chanu. Dyna braf ydi cael mwynhau tawelwch ar gopa mynydd!

Yn hytrach na chroesi tan y bont ger Gorsaf Clogwyn a dilyn y prif lwybr, aed dros gopa Llechog ac ymlaen at Tryfan (arall!) cyn ail-ymuno â’r llwybr a throi oddi arno eto heibio gweddillion hen gapel Hebron, croesi afonydd Arddu a Hwch ac i gyfeiriad Bwlch-y-groes yn ôl i’r man cyfarfod.

Llawer o ddiolch i Sonia am arwain taith ddifyr tros ben – tua 14 milltir efo dros 1400 m o ddringo – ac am drefnu tywydd cystal! Braf oedd cael cwmni Simeon o ardal Llandeilo, David Levi o Gaerdydd a Curon ac Abi, hwythau hefyd o’r brif-ddinas, yn ogystal â Dwynwen a Gerallt, Meinir Huws, Berwyn Owen, Trystan Evans, Iolo Roberts ac Eryl.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR