Taith y llynnoedd 19 Ionawr

  
Dydd Mercher y 19eg o Ionawr cyfarfu 26  o’n haelodau ger Pont y Pair ym Metws-y-coed. Elizabeth, Mair ac Iona oedd yn  arwain ac roedden nhw wedi ymarfer y daith sawl gwaith er mwyn gweld cymaint o  lynnoedd â phosibl yng nghoedwig Gwydir. 
      
      Ar ôl gadael y pentref a chychwyn ar  lwybr y goedwig roedd gwaith dringo a phawb yn cynhesu. Gwelwyd olion y  mwyngloddio yn yr ardal wrth ymlwybro ac afonig hardd yn llifo tuag at yr afon  Conwy. Ar ôl pasio bwthyn Aberllyn gwelwyd Llyn Parc sy’n 664 troedfedd uwch  lefel y môr a’i arwynebedd yn 22 acer. Paned sydyn a cherdded ar ffordd y  goedwig yna troi i’r chwith er mwyn cael ychydig o amrywiaeth a mwynhau gwyrddni’r  mwsogl ar y coed ac o dan droed. Allan yn ôl i’r ffordd a chip sydyn ar hen  gronfa ddŵr Coed mawr a chyn bo hir cyrraedd Nant Bwlch yr Haearn ac olion y  mwyngloddio plwm a sinc  a ddigwyddodd  yma. Cloddfa’r Parc oedd y fwyaf a mwyaf llwyddiannus ac fe agorodd yn 1855 a’i  gweithio tan y 1940au. 
      
      Cafwyd seibiant am ginio wrth Llyn  Sarnau. 3 acer ydi’r llyn yma ac yn aml yn yr haf bydd yn ymddangos wedi sychu  a thyfiant o frwyn yn ei orchuddio. Ail gychwyn ar lwybrau trwy goedwig Gwydir  unwaith eto. Dechreuwyd plannu coed yn yr ardal yma yn 1921. Ar hyn o bryd mae  gwaith torri coed yn cael ei gynnal a sawl coeden wedi disgyn ar ôl gwyntoedd  cryf. 
      
      Ar y chwith i ni cyn cyrraedd tŷ Bryn  Fawnog cawsom gip ar lyn Pencraig. Nid oes mynediad i’r llyn yma rŵan. Ymlaen â  ni at lwybr sydd rhwng dau lyn dienw er eu bod yn dipyn o faint. Cyn bo hir  gwelsom Lyn Glangors sy’n 15 acer ac yn 900 troedfedd uwchben lefel y môr.  Adeiladwyd y llyn yma i gyflenwi dŵr i fwynglawdd Pandora. Yna roedd cyfle i  gerdded ychydig o gaeau gan weld olion gwastraff y mwyngloddio. Roedd Moel  Siabod yn gwmni i ni ar hyd y daith a llyn Geirionydd yn gorwedd  o’r golwg yng nghysgod Mynydd Deulyn. 
      
      Yn ôl i’r ffordd sydd yn mynd o Lanrwst  at Lyn Geirionydd a throi i’r dde i weld llyn Bodgynydd Bach a llyn Bodgynydd  Mawr neu llyn Bod Mawr ar lafar. Mae’r llyn yma yn 14 acer o arwynebedd ac yma  hefyd adeiladwyd argae i gyflenwi dŵr i fwynglawdd Pandora. Gerllaw’r llyn mae  Gwarchodfa Natur Cors Bodgynydd ac un o’r llefydd gorau yng ngogledd Cymru i  weld a chlywed y troellwr mawr pan fydd yn ymweld yn ystod misoedd yr haf. 
      
      Cyn bo hir roeddem yn ôl yn y  ffordd  sy’n rhedeg o Lanrwst i Tŷ Hyll  gan weld y llyn olaf yng ngardd Tŷ’n Mynydd. Ar ôl dringo camfa neu ddwy  roeddem yn croesi caeau cyn dychwelyd i’r goedwig ger Diosgydd. Lawr y llwybr  yma yn ôl i Betws gyda’r afon Llugwy yn byrlymu oddi tanom ar ei ffordd i ymuno  â’r afon Conwy. 
  
    Adroddiad gan Iona
Taith i Nant Bwlch yr Haearn lle bu cloddio am blwm a sinc o 1607 hyd at 1950
Roedd 28 o  aelodau wedi cyfarfod yn Pont y Pair, Betws-y-coed. Enwau rhai o’r gweithfeydd oedd Aberllyn, Cyffdy,  Parc, Hafna a Pandora. Cychwyn dringo trwy Coed Gwydir at Lyn Parc, llyn  naturiol oedd yn cyflenwi dŵr i waith Aberllyn. Ymlaen at gronfa ddŵr Coed Mawr ac yna at Lyn Sarnau.
      
      Cyn cael cinio wrth y llyn, mynd i weld y simdde fawr  sydd wrth ysgol awyr agored y Nant. Llwybr trwy’r coed wedyn heibio Bryn y Fawnog at ddwy  gronfa ddŵr, "un-named lakes" ar y mapiau, oedd yn cyflenwi dŵr  i waith Cyffdy. Dilyn y llwybr wrth ochr Bwlch Gwynt i lawr at Lyn  Glan Gors oedd yn cyflenwi dŵr i waith Pandora. Ymlaen heibio Ty’n y Groes oedd yn gartref i Dilys  Cadwaladr pan oedd yn athrawes yn ysgol y Nant. Llyn Bodgynydd Bach oedd y nesaf sef cronfa  ddŵr ac yna llyn naturiol Bodgynydd Mawr, sydd yn perthyn i Glwb  Pysgota Llanrwst. Troi am adref heibio Hafoty Pencraig ac at Diosgydd  Uchaf ac yna y llwybr trwy’r coed yn ôl i Betws. 
      
    Diolch i bawb am eu cwmni.
    
      Adroddiad gan Elizabeth
      
      Enwau'r cerddwyr: Anet,  Gwyn a Linda, Buddug, Gaenor, Margiad, Huw, Richard, Dilys ac Aneurin,  Dafydd, Ellis, Erddyn, Gwynfor a Rhian, Gareth a Rhys, John Arthur, Iolo,  Nia, Wini, Nia Wyn, Haf, John P, Elizabeth, Mair a Iona.
      
    Lluniau gan Haf, Gwyn a Iolo ar FLICKR
