Taith Ffynnongroew 13 Ebrill

  
Taith Bro Thomas Pennant
Tŵr Taith Bro Thomas Pennant
Cyfarfod am 10.15 am wrth Felin y Garth  Ffynnongroyw. Adeildadwyd y felin yn 1743 gan y teulu Mostyn i drin grawn yr  ardal leol. Cychwyn y daith gan  gerdded  drwy Goed y Garth ac allan i dir agored wrth olion hen waith mwyn Trelogan yna  i’r chwith a cherdded uwchben Coed Pentre Ffynnon ac at y maen diddorol  Achwyfan.
      
      Hwn yw’r maen talaf o’i fath yn y wlad  ac mae dros fil o flynyddoedd oed. Ymlaen  wedyn at y Tŵr ar Fynydd y Garreg.  Pharos Rhufeinig a elwir yn lleol ond mae’n  debyg yr adeiladwyd yn yr ail ganrif a’r bymtheg fel disgwylfa. Cinio wrth y  Tŵr a i lawr i Chwitffordd . Picio mewn i’r fynwent i weld bedd Moses Griffith  bachgen o Ben Llŷn a oedd yn ddarlunydd a chyd deithiwr i Thomas Pennant a  drigai yn lleol yn Downing.
      
      Cerdded yn ôl i’r ceir drwy dir parc Mostyn ac  i lawr Nant y Felin Blwm.
    
Diolch i Clive, Dafydd, Eifion, Haf, Gwyn  Chwilog, Gwyn Llanrwst, John Arthur, Nia a Winni am eu cwmni. Diwrnod heulog  braf mewn bro gwahanol.
      
    Adroddiad  gan Arwel
Lluniau gan Arwel ar FLICKR
