HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Drws y Coed 12 Mawrth


Efo rhagolygon y tywydd yn addo i’r glaw ‘rafu a’r cymylau godi dyma gyfarfod yn Y Fron uwchben Groeslon. Criw o ddeuddeg yn cynwys Sioned Llew, Aaron, Gethin, Andras, Dylan, Iolo, Ffion, Lowri, David, Sonia a Dafydd Legal.

Yn groes i arfer teithiau Clwb Mynydda, dyma gychwyn lawr allt o’r Fron tua pentre Nantlle a chroesi llawr Dyffryn Nantlle i Tal y Mignedd Isaf. Ar ôl dilyn y Llwybr Llechi am ryw ddau gan llath dyma ddringo yn serth i fyny mynydd Tal y Mignedd. Erbyn cyraedd y copa roedd y cymylau wedi dechra codi’n uwch na’r grib ond y gwynt yn eitha cryf erbyn hyn. Ar ôl paned yng nghysgod y wal ar gopa Tal y Mignedd dyma fynd ymlaen dros Crib Nantlle yn cynwys copaon Trum y Ddisgyl, Mynydd Drws y Coed a’r Garn.

Ar ôl disgyn lawr i Rhyd Ddu, cinio haeddiannol yng nghysgod y coed uwchben Planwydd. Efo pawb wedi gwerthfawrogi y seibiant dyma cychwyn ar ddringfa olaf y daith dros Foel Rûdd ac i gopa Mynydd Mawr. Cerdded hamddenol yn ôl i’r Fron i orffen y daith.

Ar ôl bod yn cadw llygaid ar sgôr y gêm rhwng Lloegr ac Iwerddon at diwedd y daith, aeth rhan fwyaf o’r criw i’r Pen Nionyn yn Groeslon a chael croeso cynes a mwynhau ail hanner y gêm efo peint neu ddau. Y Gwyddelod yn sicrhau diwedd da i ddiwrnod gwych o fynydda.

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Sioned Llew a Sonia ar FLICKR