HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crianlarich 12–19 Chwefror


Wedi mwynhau moethusrwydd a bargen dda’r Crianlarich Hotel ddwy flynedd yn ôl, dychwelyd i’r un lle oedd y penderfyniad am eleni eto. A buom yn ffodus iawn i osgoi’r gwaethaf o’r stormydd a effeithiodd ar Gymru yn ystod yr wythnos.

Daeth ugain ar drefniant y clwb a chriw o 11 o gyffiniau Bethesda a glannau Menai yn cyrraedd ddydd Iau – a’r rhan fwyaf ohonynt hwythau hefyd (e.e. Chris, Stephen, Mathew, Gari Bryn, Carwyn, Owain) yn aelodau. A braf yw gallu nod bod sawl un, rhwng y ddau griw, yn eu hugeiniau ac eraill yn profi mynydda gaeaf yn yr Alban am y tro cyntaf – a phawb ar ddiwedd yr wythnos yn edrych ymlaen am ddychwelyd.

Criw’r clwb oedd Curon o Gaerdydd (yn cynrychioli de Cymru!), Gethin, Andras ac Alun Hughes o Fôn, Gerallt, Dwynwen a Siân o Borthmadog, Keith o Dremadog, Gareth Huws ac Ifan o Gaernarfon, Dylan Evans (a’i frawd, Trystan, yn cyrraedd erbyn diwedd yr wythnos), Elen Huws, Susan a Raymond Griffiths, Charles o Lannefydd, Tomos o Lanuwchllyn, Raymond Roberts, Eryl a threfnydd y daith, Gareth Everett.

Dydd Sul

Rhannu’n griwiau bach ar ddiwrnod cymylog a gwlyb ond gydag eira dros tua 800 m i roi inni flas o’r gaeaf. Dewisodd Keith, Tomos, Gareth, Ifan, Charles ac Eryl fynydd Ben Challum, ychydig i’r gogledd-ddwyrain o Crianlarich, gan ddringo’r llechweddau glaswelltog cyn mwynhau pwt o grib rhwng y copa deheuol a’r prif gopa – ac yna i lawr yr un ffordd. Er gwaethaf yn tywydd, gwelwyd rhyw 20 – 25 o gerddwyr eraill, nifer anghyffredin ar fynydd llai poblogaidd yn yr Alban yn y gaeaf.

Teithiodd Curon, Gethin ac Andras i’r dwyrain i lan Loch Earn i ddringo’r Ben Vorlich arall (mae ’na un i’r de o Crianlarich hefyd) yn llwyddiannus. Cerddodd Raymond R. o’r gwesty i fynd fyny Ben More, 1147 m, mynydd ucha’r ardal sy’n teyrnasu dros Crianlarich a chanfod fod yna erbyn hyn lwybr wedi’i balmantu bron i’r copa – arwydd o’i boblogrwydd.

Teithio i’r gogledd i ymylon Rannoch Moor wnaeth Susan a Raymond i ddringo Stob a’ Choire Odhair. Aeth Dylan, Alun, Sian, Elen a Catrin (wedi picio fyny atom o Glasgow) trwy bentref Killin a dilyn ffordd gefn i fyny Glen Lochay i barcio ger ffarm Kenknock cyn cerdded pum milltir ymhellach i ddringo llechwedd serth Sron nan Eun ac ymlaen i gopa Creag Mhor.

Dydd Llun

Dychwelyd drannoeth i’r un cwm wnaeth Gareth E., Dwynwen, Gerallt, Raymond R., Tomos ac Eryl a chael tywydd llawer gwell na’r diwrnod cynt felly’n llwyddo i gipio copa Beinn Sheasgarnaich yn ogystal â Creag Mhor – diwrnod hir o naw awr. Ben Vane oedd dewis Gareth, Ifan, Andras, Gethin, Keith a Charles, un o ‘Alpau Arrochar’. Er ei fod yn un o’r ddau Fynro isaf o ran uchder (915 m), mae’n fynydd creigiog a serth – a thrawiadol iawn dan eira!

Aeth Siân ei hun i gopaon An Caisteal (y castell, wrth gwrs!) a Beinn a’ Chroin, dau fynydd arall eithaf creigiog yn union i’r de o Crianlarich. Mynd ei hun wnaeth Curon hefyd, i ddringo Stob Ghabhar (ia, mynydd yr afr!), y copa agosaf at Stob a’ Choire Odhair. A Ben Ledi (879 m), mynydd amlwg iawn i’r gogledd o Callander, oedd dewis Susan a Raymond.

Teithiodd Elen, Alun a Dylan ymhellach (rhywun o Ddyffryn Nantlle yn ticio Mynros efallai?) i lannau Loch Etive ac ymlaen am Loch Creran i ddringo’r mynydd rhwng y ddwy loch môr yma, sef Beinn Sgulaird. A chawsant eu gwobrwyo am yr ymdrech gydag awyr glir a golygfeydd gwych.

Dydd Mawrth

Doedd y tywydd ddim cystal a bygythiad o wyntoedd yn codi ond aeth y rhan fwyaf am gopa a chael diwrnod da o fynydda. Ben Vorlich oedd dewis Gareth E., Elen, Tomos ac Eryl gan barcio yn Inverglas ar lan Loch Lomond ger pwerdy Sloy a cherdded i fyny’r ffordd breifat, bron at argae cronfa Loch Sloy. Dringo’n serth wedyn i gyrraedd ysgwydd ddeheuol y mynydd i wynebu hyrddiadau o wyntoedd cryfion iawn ar brydiau ond popeth yn hyfryd o dawel ac yn glir ar y copa ei hun.

Gwnaed yr un daith yn union gan Gethin, Andras, Charles, Ifan a Gareth H. ond eu bod wedi cychwyn rhyw awran yn hwyrach – a chael profiadau tebyg, heblaw am gael trafferth i fynd drwy’r corwynt oedd wedi codi erbyn iddyn nhw gyrraedd y pwynt triongli rhyw ddau ganllath o’r copa go iawn.

Gwelwyd un arall ar y mynydd; llanc ifanc o Sais y bu ei rieni’n rhedeg bragdy Cwrw Cader yn Nolgellau am gyfnod.

Mynd am argae oedd hanes Dwynwen, Gerallt, Dylan a Siân hefyd – tua’r gogledd i Tyndrum a throi ar hyd yr A85 i’r gorllewin at argae Cruachan a’i bwerdy yntau i ddringo un o fynyddoedd mwyaf adnabyddus a thrawiadol yr Alban, Ben Cruachan, sy’n codi’n serth o lefel y môr ger Loch Awe. Cyrhaeddwyd y copa’n gymharol ddi-drafferth ond roedd yr amodau’n heriol o ran y gwynt a’r amgylchiadau rhewyllyd ar hyd y grib droellog a chreigiog tuag at yr ail gopa, Stob Diamh. Diwrnod naw arall gan ddychwelyd lawr dros is gopa Stob Garbh, diwrnod o fynydda gaeaf lle’r oedd cramponau a chaib rhew’n hanfodol.

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR

Dydd Mercher

Wedi ymdrechion y diwrnod cynt, bu’n ddiwrnod byrrach haeddiannol i’r un pedwar – ac Elen yn ymuno â hwy – i ddringo Beinn Chabhair o Invernanan, y mwyaf deheuol o’r saith Mynro sydd i’r de a’r de-ddwyrain o’r A82/A85. Serch hynny, mae’n fynydd trawiadol gyda chyfres o fân glogwyni’n arwain at y copa.

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR

Teithio tua’r de wnaeth Curon ac Eryl, gan droi yn Tarbet i’r A83 a pharcio ar ochr y ffordd yn Glen Croe i ddilyn llwybr graddol a dymunol iawn i fyny’r cwm i’r Beallach a’ Mhaim sy’n gwahanu Beinn Ime oddi wrth Beinn Narnain a Ben Arthur (y Crydd). Credded di-darfferth wedyn i gopa Beinn Ime ac yn ôl yr un ffordd – wedi rhoi hanner ystyriaeth i Narnain hefyd – mewn eira ac yna glaw trwm. Dyma un o’r Mynros rhwyddaf, o’i ddringo o’r cyfeiriad yma, tair awr a hanner o daith i fyny ac i lawr.

Dydd Iau

Ben Ime oedd dewis Ifan, Gareth, Andras a Gethin hefyd ond eu bod wedi cychwyn o Succoth ar hyd llwybr serth drwy’r coed i gwm Allt a’ Bhalachain heibio i Glogfeini Nairnain, sy’n cynnig cysgodfeydd naturiol lle byddai criwiau mawr o weithwyr Glasgow a’r cyffiniau’n gwersylla’n y 1920au a’r 30au (a wedi hynny), gan agor pennod newydd yn hanes mynydda ym Mhrydain. Cafwyd diwrnod clir i fwynhau golygfeydd eang o gopa creigiog Ben Ime.

I'r gogledd, tua Beinn Achaladair a Beinn a‘Chreachain, yr aeth Raymond, Trystan ac Eryl i barcio ger ffarm Achalader ger Loch Tulla a dilyn y ffordd drol bron at adfeilion Barravourich. Gan fod ansicrwydd a fedrid croesi’r afon ymhellach i fyny’r cwm, penderfynwyd anelu’n syth i fyny’r llechwedd serth iawn a chyrraedd y grib ychydig i’r dwyrain o Meall Buidhe. Gyda gwynt cryf i’w cefnau, cyrhaeddwyd copa a’Chreachain yn eithaf sydyn cyn wynebu’r gwynt am bedair cilometr i Achaladair. Ond gyda’r cymylau’n codi, awyr las a haul, golygfeydd eang ac eira caled dan draed a sŵn hyfryd crensian y cramponau doedd neb yn cwyno! Rhaid wedyn oedd mynd 3 km i’r cyfeiriad anghywir, ar hyd y grib i’r de, i ganfod llwybr (siomedig o wael) lawr Allt Coire Achaladair yn ôl at y car.

Yr ail griw’n cyrraedd heno, gyda rhai wedi gadael gogledd Cymru am chwech y bore i gael digon o amser i ddringo Ben Vane ar y ffordd i fyny.

Dydd Gwener

Deffro a hithau’n bwrw eira’n drwm a Chrianlarich yn wyn; eira trymaf y pentref ers ychydig flynyddoedd, mae’n debyg. Diwrnod cymharol  hamddenol i’r rhan fwyaf – Ifan a Gareth yn cerdded y West Highland Way i Tyndrum ond yn dal trên yn ôl; Keith, Andras, Gethin a Curon yn dringo rhan o’r grib sy’n arwain ar Cruach Ardrain a thriawd Porthmadog yn rhedeg rhai milltiroedd ar hyd y WHW (“fel mynd trwy dywod”) – ond ‘criw Bethesda’ oedd newydd gyrraedd y noson gynt yn awchu amdani!

Ymunodd Tomos a Trystan â hwy felly gadawodd 13 faes parcio’r gwesty i gerdded rhyw 3 km ar hyd yr A82 cyn troi i ddilyn llwybr gydag ymyl afon Falloch ac yna i fyny ac ar hyd y grib dros Sron Gharbh i gopa An Caisteal. Er bod y cawodydd eira wedi tawelu, roedd yn ddiwrnod caled a heriol gyda’r eira newydd wedi lluwchio nes eu bod hyd at eu canol ynddo ar brydiau. Doedd dim digon o amser i fynd am ail gopa’r grib, Beinn a’ Chroin, felly nol i gysur yn gwesty wedi rhyw naw awr o gerdded.

Dydd Sadwrn

Deffro heddiw i fyd gwahanol iawn; cymylau’r nos yn codi oddi ar y copaon, awyr las ac addewid o haul a’r eira wedi clirio o’r gwaelodion. Yn anffodus, roedd yn ddiwrnod troi am adref i’r rhan fwyaf o griw’r clwb – ond nid i bawb.

Ymunodd Dwynwen a Gerallt â ‘chriw Bethesda’ i foduro dwy filltir i Portnellan (lle bu’r clwb yn aros mewn cabanau yn 2004) i ddringo Ben More, i lawr i Beallach-eader-dha Bheinn ac yn codi eto i gopa ail Fynro’r dydd, Stob Binnein cyn disgyn lawr i’r cwm a dilyn llwybr yn ôl ar hyd Glen Benmore. “Diwrnod rhagorol, awyr las a dim gwynt yn goron ar wythnos wych”, yn ôl Cadeirydd y clwb. A phawb yn cytuno, rwy’n siŵr!

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR

Diolch i Gareth am drefnu – ac am ddechrau meddwl am daith 2023 yn barod!

Adroddiad gan Eryl Owain.

Lluniau gan Eryl ar FLICKR

Lluniau gan Elen ar FLICKR