HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ceunant Clywedog a Moel Caerynwch 9 Tachwedd


Wrth rhyw lwc, cafwyd diwrnod sych, braf a distaw ar gyfer y daith, gyda lliwiau hydrefol y dail ar eu gorau wrth deithio i lawr, ac wedyn i fyny‘r ceunant trawiadol. Wedyn, anelu at gopa’r Foel, gyda seibiant byr am baned ar y ffordd.

Clip go serth i’r copa, cael golwg ar y garreg canan sydd ychydig o lathenni i ffwrdd, ac wedyn taith hamddenol yn ôl tua Brithdir, ond eto, cael hoe fach am ginio cyn mynd ar ein ffordd i lawr y bryn.

Ar y daith – Huw, Gwyn, Arwel, Raymond, Rhys, Gareth, Dafydd, Aneurin, Iolyn, Eirlys, Ellis, Ann, Iolo, John, Nia, Margaret, a Margiad.

Adroddiad gan Raymond

Lluniau gan Iolo, Gareth, Gwyn ac Aneurin ar FLICKR