HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Epynt 8 Mai


Daeth 11 ohonom ar Sadwrn braf i brofi rhan arall o lwybr Epynt, wedi cerdded rhan cyfagos cyn y clo cyntaf. Mae Llwybr Epynt llawn tua 50 milltir felly'r bwriad y tro yma oedd taith gylch gan gychwyn o faes parcio Ffordd y Garth ar y B4519 a dychwelyd ar ran o lwybr Epynt. Yma cafwyd golygfeydd bendigedig o Gwm Graig-Ddu.

O'r man uchaf ar yr Epynt, 'doedd ond un ffordd i fynd sef i lawr, a llwybr mynyddig at Fferm Troed-y-Rhiw Isa. Ymlaen ar lwybr rhwng y coed wedyn yn sŵn adar amrywiol, nes cyrraedd Gwesty'r Llyn. Ymlaen trwy erddi'r Gwesty tuag at y llyn a throi wedyn i orffen cylch yn y gerddi nes dod at adfeilion y tŷ pwmpio a safle'r ffynnon (spa) gwreiddiol.Dyma roddodd yr enw i Llangamarch 'Wells'. Darganfyddwyd ffynhonell y dŵr arbennig a geir yn y ffynnon yma yn ddamweiniol gan ffermwr mewn cyfnod o sychder a sylwodd fod mochyn yn gorwedd ac yn yfed dŵr yn hapus ar wely yr afon. Blasodd y dŵr a darganfod blas gwahanol i weddill yr afon. 'Roedd Barium yn bresennol ynddo a oedd yn cael ei ystyried o fudd at nifer o gyflyrau, a chyhoeddodd y Lancet ar y pryd iddo fod yn 'diuretic' ac o fudd ar gyfer afiechydon y galon a'r arennau.

Wedi'r darganfyddiad yma, datblygwyd y Gwesty ar ddiwedd yr 19eg ganrif, a potelwyd y dŵr hefyd i'w werthu. Mae'r gwesty yn dal yn boblogaidd ond y tŷ pwmp bellach yn adfeilion gyda dirywiad am y gofyn am y math yma o feddygyniaethau.

Ymlaen ar hyd ochr yr afon Irfon a stop bach am baned gynnar a chyrraedd pentref  bychan Llangamarch. Ffordd dawel wedyn allan o'r pentref a throi wedyn i'r chwith am filltir golew nes cyrraedd Cefn Brith, ffermdy hynafol a oedd yn gartre i John Penri (1563-93). Cawsom gyfle i edrych o gwmpas y clos a gweld beth oedd argraffiadau O.M.Edwards o'r fferm mewn erthygl o Cartrefi Cymru 1896, gwerth ei ddarllen (tud 87-)
https://archive.org/details/cartreficymru00edwagoog/page/n90/mode/2up?view=theater

Ond, ni welson hwn ar y daith.
https://www.geograph.org.uk/photo/2175537

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Peterhouse Caergrawnt ac yno daeth dan ddylanwad Piwritaniaeth. Ysgrifennodd nifer o gyhoeddiadau yn Saesneg yn beirniadu'r Eglwys yng Nghymru ac yn gofyn am fwy o bregethu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu'n cynnal gwasg argraffu yn Lloegr am gyfnod, gwasg a argraffodd nifer o bamffledi yn beirniadu'r esgobion. Fe'i camgyhuddwyd o fod yn awdur y Marprelate Tract ac o beidio bod yn deyrngar i frenin Lloegr ac fe'i crogwyd ar lan afon Tafwys ym Mai 1893.

Ar hyd hen lwybr chwarel wedyn, ac heibio fferm Cefn, a throi i'r chwith ger Cynal Uchaf i ddringo at Fynydd Epynt.Cafwyd llecyn braf am ginio wrth ochr y llwybr gyda golygfeydd o'r dyffrynnoedd serth ac edrych i lawr i gyfeiriad Llanwrtyd. Ymlaen wedyn nes cyrraedd llwybr swyddogol yr Epynt. Yn y man yma roeddem rhyw chwarter milltir o Ffynnon Dafydd Bevan, a Tafarn y mynydd. 'Does dim adfeilion bellach ond pentwr o bridd a cherrig. Roedd y fflagiau coch i fyny, felly i'r chwith ar hyd ffyrdd y goedwig gan ddilyn y postiau top melyn yr holl ffordd i'r man cychwyn, gyda dyffrynnoedd serth i'r chwith a'r coedwigoedd a'r mynydd i'r dde a chipolwg o'r Bannau ar adegau yn y pellter. Fe basiwyd cofgolofn i'r Mabioins Way sy'n cydredeg a llwybr yr Epynt am ychydig.

Wrth gerdded yr ardal yma allwn ni ddim anghofio'r drychineb enfawr o golli cymuned Gymreig dan orfodaeth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Adroddiad gan Emlyn Penny Jones (Pens)

Lluniau gan Dewi ar FLICKR