HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwrs Cymorth Cyntaf Mehefin 2021


Manteisiodd wyth aelod ar y cyfle i gwblhau cwrs cymorth cyntaf REC (Rescue and Emergency Care) a oedd wedi ei drefnu misoedd yn ol ond wedi ei ohirio oherwydd y Covid. Cwrs dauddydd oedd hwn a’i gynhaliwydd yn Neuadd Pentref Capel Garmon.

Y darparwyr oedd Marianne a Jason, perchnegion cwmni Tirio, o Nebo. Erbyn diwedd y cwrs roeddem yn gyfarwydd gyda’r ffordd o ymdrin a’r brif ddamweinaiu ac afiechydon a all daro mynyddwyr ac wedi cael golwg ar yr offer syml a ellid ei ddefnyddio I roi cymorth cyntaf i gleifion yn yr awyr agored 

Roedd yr holl aelodau a fynychodd yn llwyddianus  - Anne, Arwel, Dewi, Llinos, Elin, Emyr, Gareth a Raymond.

Diolch I’r Bartneriaeth Awyr Agored am roi cymorthdal ac i’r Clwb Mynydda am dalu hanner ein treuliau.

Adroddiad gan Raymond Griffiths.

Lluniau gan Anne Lloyd Cooper ar FLICKR