HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Ceredigion 29 Mai


Braf oedd croesawu naw o gerddwyr i ymuno ac Ieuan a mi i grwydro bryniau Gogledd Ceredigion. Roedd rhai digon craff i gyrraedd fymryn yn gynnar er mwyn cael coffi a byrbryd yng nghaffi Cletwr cyn cychwyn! Yn y rhan gyntaf o’r daith, wnaethon deithio i fyny ochr ddeheuol Cwm Cletwr, ar hyd hen lonydd drwy goetir hynafol derw yng nghwmni'r Siffsaff, nes cyrraedd tiroedd fferm Gwar-cwm a chael croeso gan y ci defaid fel yr arfer. Ymlaen wedyn heibio Cae’r Arglwyddes efo’r gwartheg duon yn brysur yn pori o’n hamgylch, nes cyrraedd gwlypdiroedd ar odre Moel y Llyn. Roedd dringo i’r copa yn chwyslyd efo’r tywydd yn drymedd, a’r Ehedydd yn clochdar arnom i gadw ati. Ac roedd yn werth yr ymdrech, efo olygfeydd godidog o ucheldiroedd Pumlumon, a phawb i weld wedi eu plesio! Ac wedi dringo’n hamddenol 521 metr i’r copa o fewn dwy awr a hanner, amser am ginio, efo’r tywydd yn hollol lonydd a ddim i’w glywed ond y Gôg o Gwm Einion.

Disgyn i lawr o Moel y Llyn wedyn, ag i fyny at garn unigryw Esgair Foel-Ddu, sydd yn gartref i Griafolen – a golygfeydd arbennig o fynyddoedd de Eryri, a’r Gôg eto yn cadw cwmni. I lawr eto ag i fyny at garn Foel Goch, a phawb yn llwyr fwynhau'r panorama o’r Borth ag Ynys Las, cors Goch Fochno, dyffryn Ddyfi ac am Pennal a’r Tarennau. Disgyn i lawr eto drwy’r ffriddoedd ac wedyn drwy gaeau hir cul rhwng coed derw hynafol, cyn cyrraedd lonydd Cwm Cletwr a aeth a ni i lawr i’r ceunant a’r dŵr yn byrlymu’n swnllyd. Croesi’r bont bren a heibio’r gored oedd yn darparu dŵr ar gyfer yr hen felin falu oedd yn rhan o’r gweithfeydd mwyn diri yn y dalgylch. Braf oedd cael cyferbyniad o’r cwm i ddechrau a gorffen taith i’r ucheldir, am dyma ni yn ôl allan yn Nhre’r Ddol, a phawb wedi mwynhau, diolch i’r tywydd!

Diolch i bawb am ymuno a mi ac Ieuan am flas o gerdded yng Ngogledd Ceredigion, - Robat, Steve, Iolyn, Peter, Eryl ac Angharad, Rhodri a Katie, a Nigel. Y daith tua 15 km, yn dringo 610 metr ag oddeutu 5 awr a hanner.

Adroddiad gan Dafydd.

Lluniau gan Rhodri ac Eryl ar FLICKR