HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Caseg 29 Mai


Braf cael cyfarfod a ffrindiau eto ers amser maith. 12 ohnonom yn cyfarfod yn y maes parcio ar waelod hen domen chwarel Pantdreiniog, Bethesda ar fore cymylog ond llawer cynhesach na'r penwythnos cynt. Rhyw deimlad bod yr Haf wedi cyraedd o'r diwedd gan edrych tuag at y Carneddau a gweld bod yr eira bellach wedi diflanu. Cychwynom drwy Gerlan a Chiltwllan at waelod Gyrn Wigau a cherdded i fyny'r dyffryn heibio criw oedd yn gwersylla mewn pabell fawr a fyddai ddim yn edrych allan o le ar faes yr eisteddfod! Ymlaen a ni hyd ochor y dyffryn am 4 milltir i Ffynnon Caseg erbyn amser cinio. Er mai hwn yw un o'r llynoedd lleiaf yn Eryri nid oedd bosib gweld yr ochor bellaf pan gyrhaeddom ond fe gododd y niwl erbyn i pawb orffen eu cinio. Golygfa anhygoel o'r clogwyn ar gefn y cwm fel i ni ail gychwyn a dringo'n serth am grib gogledd-ddwyreiniol Yr Elen. Cyfle tynnu lluniau ar y copa gyda'r haul yn goleuo Ynys Mon fel arfer. Ymlaen a ni i gopa Carnedd Llywelyn ac yn ol i'r niwl unwaith eto. I fewn ac allan o'r niwl oeddwn wedyn drwy'r dydd gan ddychwelyd dros Foel Grach, Carnedd Gwenllian, Yr Aryg, Bera Bach a Gyrn Wigau. Braf cael gorffen yn yr ardd gwrw yn nghafarn y Douglas a torri syched ar ddiwedd y daith. Ar y daith oedd Chris, Elen, Iolo, Raymond, Keith, Tegwyn, Trystan, Sandra, Ariannell, Gareth, Ken a Sioned.

Adroddiad gan Steve

Lluniau gan Steve ar FLICKR