HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gogledd Ardudwy 28 Awst


Yn ffodus iawn, cafwyd rhagolygon tywydd ardderchog, a daeth Rhiannon a Clive, Erddyn, Richard a Sue, Raymond a Sue ac Elen draw i Lanfair.

Rhannwyd ceir er mwyn teithio i fyny i Gwm Bychan ar ffordd sy’n eithaf cul a throellog mewn mannau. Wrth gytuno ar y dyddiad, doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai hi’n benwythnos Gŵyl y Banc ... ond llwyddwyd i gyrraedd pen uchaf Cwm Bychan yn ddiogel, er gwaethaf ambell i antur ar y ffordd i fyny yno.

O’r cae parcio, dilynwyd y llwybr i fyny am Fwlch Tyddiad, gan ddilyn yr hen lwybr canoloesol o gerrig gwastad. O ben y bwlch, troi tua’r gogledd a dilyn y grib greigiog nes dod i olwg Llyn Morwynion i’r de – lle da i aros am banad gynta’r dydd a’r haul yn disgleirio ar wyneb y llyn. Oddi yma hefyd, cafwyd golygfeydd godidog i bob cyfeiriad – Ardudwy tua’r de orllewin, Pen Llŷn, Eifionydd, mynyddoedd Eryri a Meirionnydd, Cader Idris, Rhinog Fawr a chrib y Rhinogydd tua’r de. Wedi’r banad, parhau i ddilyn y grib, gan groesi lleiniau o graig foel, a dringo i lawr i’r bylchau rhwng pob ton enfawr o graig, nes dod at Graig Wion a’r ddau lyn bach dirgel a thawel, Pryfed a Twr Glas.

Gam a naid wedyn ac roeddem yn wynebu’r Graig Ddrwg a Bwlch Gwilym o’n blaenau, ond troi yn ôl am Gwm Bychan oedd ein hanes, a dilyn y llwybr trwy’r bwlch ac yna i lawr yn ôl i gyfeiriad y môr a Chwm Bychan.

Braf oedd cael cwmni’r cerddwyr wedyn yng Nghaffi’r Castell yn Harlech, lle cafwyd panad a chacen flasus. Diolch i’r criw hwyliog a ddaeth draw i fwynhau rhai o lecynnau a chorneli mwyaf cudd - ac anghysbell - y Rhinogydd.

Adroddiad gan Haf

Lluniau gan Richard ag Erddyn ar FLICKR