HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Eifl 25 Awst


I bob pwrpas, dilyn llwybrau Cylchdaith Llithfaen oddi ar wefan www.ymweldageryri.info oeddem yn y daith hon. Roedd pennod Dylan Huw yn Copaon Cymru hefyd wrth law i fireinio’r daith, sef dwy ddolen yn cyfarfod yn y maes parcio ar y ffordd i Nant Gwrtheyrn.

Er i ni ohirio’r daith i osgoi diwrnod gwlyb, roedd tri copa’r Eifl yn gwisgo’u cap niwlog am ddeg o’r gloch ar y bore hwn hefyd.

Mae’r llwybyr i Fwlch yr Eifl yn rhan o Lwybr yr Arfordir ac felly’n hawdd ei ddilyn ond mae chydig mwy o dynnu i fyny i gyrraedd copa Garn Ganol (Marchog i rai). Felly braf oedd cael aros am chydig o anadl ar y sillf ble mae olion hen waith o’r oes a fu. O’r fan hyn gwelsom gopa Garn Fôr (Mynydd y Gwaith / Gyrn Fôr yn enwau eraill) yn gwthio drwy’r niwl. Yna ymlaen i’r copa drwy ymbalfalu dros yr ithfaen gan ddychmygu, wedi cyrraedd yno, pa olygfeydd oedd yn cuddio tu ôl i’r llen!

Gan ddilyn cyfarwyddiadau Dylan Huw, gostyngwyd i’r bwlch rhwng yr Eifl a Thre’r Ceiri gan gerdded ar draws y tir mawnog hyd at droed y Gaer.  Mae’r fynedfa orllewinol yn ddramatig iawn gan fod y waliau allanol uchel wedi cael ei hail godi yn y ganrif ddiwethaf gan ychwanegu at fawredd y safle.  Er yn niwlog, roedd yr awel yn fwyn ac roedd llecyn delfrydol ger y copa yn wynebu’r dwyrain i ni gael cinio. Fel y disgwylir yr adeg yma o’r flwyddyn, roedd llawer, gan gynnwys ffrindiau, wedi troi allan i Dre’r Ceiri y p’nawn hwn.  Erbyn hyn roedd y niwl wedi diflannu a chawsom dro hamddenol iawn i lawr drwy Borth y De ac yn ôl i’r maes parcio gan weld, erbyn hyn, ehangder Pen Llŷn o’n blaenau.

Roedd yr ail ddolen yn dipyn haws gan ddilyn llwybr cylch drwy ffermydd Tir Gwyn, Bwlch a a’r Ciliau i gyrraedd Llwybr yr Arfordir unwaith eto gan ostwng yn raddol drwy’r rhedyn a’r goedwig dderw naturiol i chwarel Porth y Nant a thraeth Nant Gwrtheyrn.  Mae’r olion diwydiannol yma’n ddramatig iawn gan ein hatgoffa o galedi’r oes a fu.

Roedd pawb yn falch o gyrraedd Caffi Meinir gan werthfawrogi’r lleoliad a’r weledigaeth sydd wedi troi un o lecynau harddaf Cymru’n ganolfan iaith werth chweil.

Diolch i’r canlynol am eich cwmni: Anet, Gwyn, Elen, Gwil, Eryl, Angharad, Buddug, John Arthur, Rhys Llwyd, Gareth Tilsley, Nia Wyn Seion, Gaenor Roberts ac Alys Oddy.

Adroddiad gan Rhiannon

Lluniau gan Rhiannon ag Anet ar FLICKR