HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gwter Bryant a'r Glyder Fawr 24 Gorffennaf


Naw ohonom ddaeth i faes parcio Nant Peris sef Gerallt, Dafydd, Eryl, Iolo, Marc, Sioned, Alun, Eirwen a finnau.

Wedi iddi ddarogan tywydd stormus a glaw trwm ychydig ddyddiau ynghynt, mi gafwyd diwrnod arbennig o braf. Roedd hefyd yn dro cyntaf i mi gael reid ar fws dau lawr i fan cychwyn taith y clwb, sef Pont y Gromlech.

Wnaethom gerdded oddi yno ar lwybr y dringwyr i gyfeiriad Carreg Wastad nes ymuno a’r Gwter gan ddringo yn serth i gychwyniad y gwter sydd yn cael ei gorchuddio gan amrywiaeth o goed. Mae rhan isaf y Gwter yn weddol gul ac roeddd rhaid dringo a darganfod ffordd i osgoi blociau mawr o graig mewn tri man gwahanol. Roedd pawb wedi llwyddo yn hawdd nes cyrraedd man agored lle cafwyd seibiant a diod sydyn yn yr haul.

Yna dilynwyd nant fwy agored am ychydig nes cyrraedd ambell fan lle roedd angen osgoi a dringo allan ac ail ymuno yn uwch i fyny.  Cyrhaeddom rhan uchaf o’r Gwter ac yn sicr y darn orau o’r sgrialu ac yna sgrî rhydd iawn lle roedd rhaid bod yn ofalus rhag rhyddhau cerrig ar ben y dringwyr oedd yn dilyn.

Unwaith i ni adael y sgrî, cyrhaeddom y darn agored ychydig is na’r copa a dim ond un hafn oedd yn weddill nes cyrraedd copa Esgair Felen. Braf oedd cael gwerthfawrogi golygfeydd trawiadol i bob cyfeiriad. Cafwyd cinio yno cyn cychwyn i gyfeiriad Glyder Fawr lle roedd Gerallt yn awyddus i ddangos i ni lleoliad Ffynnon Wil Owen. Bu’n rhaid tirio dipyn i’w ddarganfod a buan iawn wnaeth y dŵr glirio a cafodd y rhan fwyaf ohonom lymaid ohoni.

Ymlaen wedyn am gopa Glyder Fawr gan ddilyn y llwybr serth lawr i Llyn y Cŵn, Cwm Padrig a lawr wedyn i’r maes parcio yn Nant Peris lle cafodd rhai ohonom ddiod haeddiannol yn y dafarn lleol.

Nid wyf wedi disgrifio’r daith yn fanwl oherwydd pan welais luniau Gerallt a Sioned, roeddynt yn  dangos naws y daith yn berffaith ac yn dweud y cwbl. Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog ar ddiwrnod da o fynydda go iawn.   

Adroddiad gan Gareth Wyn   .

Lluniau gan Gerallt Pennant a Sioned Llew ar FLICKR