HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Chwarel Dinorwig ac Elidir Fawr 22 Mai


Daeth saith ohonom ynghyd ger trofan Allt Ddu, Dinorwig ar fore digon llaith wedi dau ddiwrnod o law trwm; Rhiannon, Richard, Sw, Keith, Llinos, Morfudd a minnau. Cerddom drwy’r chwarel yn dilyn y prif lwybr cyn troi ar lwybr bach troellog y chwarelwr tuag at Gwm Dudodyn. Wedi cyrraedd yr Afon Dudodyn gwelwyd bod yr afon wedi chwyddo’n sylweddol yn ystod y glaw. O’r herwydd penderfynwyd cerdded i fyny ochr gorllewinol y dyffryn tag at y bont newydd tua hanner ffordd i fyny’r dyffryn cyn croesi i’r llwybr dwyreiniol yn ol y cynllun gwreiddiol. Gan ein bod wedi anghofio amser paned cawsom ginio cynnar mewn man cysgodol cyn mynd ymlaen ar draws Fwlch Brecan ac i gopa Elidir Fawr. Cafwyd cysgod rhag y gwynt i fwynhau paned cyn mynd ymlaen i gopa Elidir Fach. Ymlwybrwyd tuag at yr ochr ddwyreiniol uwchben y chwarel ac fe ymddangosodd yr haul mewn da bryd i ni fwynhau  golygfeydd ysblennydd.Wrth grwydro ar hyd y lefelau a cherdded i lawr ambell inclen  rhyfeddwyd at anferthrwydd y chwarel ac edrychwyd yn fanwl ar olion rhai o’r hen adeiladau a pheirianwaith, Ymunwyd a’r ‘Llwybr Llwynog’ tuag at dwll Harriet a’r prif lwybr yn ol i Ddinorwig. Taith o dros 9 milltir gyda chwmni difyr. Diolch i Morfudd am gyd-arwain.

Adroddiad gan Eirwen

Lluniau gan Eirwen ar FLICKR