HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen yr Helgi Du a Phen Llithrig y Wrach 19 Mehefin


Roedd maes parcio Joe Brown yng Nghapel Curig eisoes yn llawn cyn i’r rhelyw o’r 15 a ddaeth ar y daith gyrraedd. Arwydd o’r amserau yw y bu yn rhaid i nifer chwilio am safle parcio tu draw i Blas y Brenin, er i ni i gyd gyrraedd yn gynnar ar gyfer y daith!

Roedd yn fore braf, gydag addewid o ddiwrnod arbennig ar y copaon, ac roedd nifer ar y daith yn aelodau cymharol newydd i’r clwb, a da hynny. Cychwyn y daith ar hyd yr hen ffordd i gyfeiriad Ogwen, cyn troi i gyfeiriad Helyg a’r A5. Wedi croesi, cychwyn esgyn i fyny braich Pen yr Helgi Du, gyda thrafodaeth a’i dyna’r enw, neu “ Pen yr Helyg Du” neu rhywbeth arall?

Croesi’r ffos a chael paned, gan yna ddechrau’r dringo gwirioneddol, i fyny’r fraich, heb i’r mynydd roi seibiant inni o gwbwl. Wrth gyrraedd y copa, gweld fod nifer dda o ferlod gwyllt, gan gynnwys ebol neu ddau o’n cwmpas, yn ymddangos eu bod yn mwynhau’r sylw. Mae gweld y “teulu” yma o ferlod ar Ben yr Helgi Du yn olygfa i’w thrysori bob tro.

Wedi seibiant am ginio a mwynhau’r olygfa i bob cyfeiriad, ac yn arbennig i Gwm Eigiau islaw a Charnedd Llywelyn a’i griw i’r gorllewin; gyda rhai yn mynd draw i gael golwg o Fwlch Eryl Farchog i’r gorllewin, ac wedi dychwelyd ymuno i ddisgyn i Fwlch y Tri Marchog i’r cyfeiriad arall, cyn dringfa fer ond caled eto i gopa Pen Llithrig y Wrach. Roedd yr olygfa i bob cyfeiriad yn arbennig er bod rhywfaint o dawch; Cadair Idris a’r ddwy Aran i’r de, Y Berwyn a Bryniau Clwyd yn nes i’r dwyrain, gyda Phenrhyn y Creuddyn a’r Gogarth i’r gogledd, heb sôn am gopaon Eryri gerllaw.

Wedi cael llun arbennig  o’r criw oddi ar dripod gan gystadleuwr i’r hynaws Gerallt Pennant, disgyn i lawr yn serth at lan Llyn Cowlyd, cyn dychwelyd ar hyd y gwastadir llaith a’r llwybr cyfarwydd yn ôl i Gapel Curig. Diolch am gwmni difyr a thaith arbennig gyda Iolyn, Dafydd Legal, Aaron, Ffion, Richard a Sue, Dylan Evans, Nia Wyn a Nia Meacher, Keith Tân, Llinos, Wil Thomas, Eifion, a John Arthur.

Adroddiad gan Gwyn Williams

Lluniau gan Gwyn a Keith Tân ar FLICKR