HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Maentwrog 18 Awst


Er gwaetha’r rhagolygon drwg am y tywydd, daeth dwsin ohonom at ein gilydd ger Tomen y Mur i ddechrau’r daith. Ar ôl cyfle i dynnu llun ar y bont drawiadol yn ymyl chwarel Braich Ddu, ymlaen aeth y criw heibio Dolddinas ac am Fwlch y Llu. O’r bwlch , oedd rhaid tynnu’r cwmpawd o’r poced cyn mentro i’r niwl trwchus oedd yn gorchuddio’r bryniau.

Mynd a dod oedd y niwl, ond gyda  mwy o ddod na mynd, ac yn y niwl roeddem am weddill y daith, mwy neu lai. Er hynny, fe lwyddwyd i ddod o hyd i gopa’r Graig Wen a teithio yn ôl tua’r ceir ar hyd y grib.

Ar y daith - Anet, Gwyn, John Arthur, Judith, Elen, Gwil, Huw, Eryl, Angharad, Raymond, Sue, Elis.

Adroddiad gan Raymond.

Lluniau gan Raymond ar FLICKR