HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelydd Ogwen 18 Awst


Daeth 13 i Fethesda i gerdded taith Moelydd Ogwen. Siomedig oedd y tywydd ond cychwynwyd ar hyd llwybrau braf uwchben Rachub a Llanllechid cyn oedi i dynnu llun yn safle hen gell neu eglwys Llanylchi. Roedd y niwl yn drwchus ond cerddom i fyny am y bwlch rhwng Moel Wnion a’r Gyrn ac i fyny i gopa’r Gyrn heibio i’r corlannau trawiadol a thynnu lluniau eto.

Ar ôl dod i lawr at y corlannau ymlaen am Gyrn Wigau a diolch i Arwel efo’i fap a chwmpas gan ddod at y llwybr clir. Ar ôl cyrraedd pentwr o gerrig  troi i gyfeiriad Dyffryn Ogwen a chael ein cinio ar greigiau Gyrn Wigau.

Wrth ddod i lawr am Gerlan roedd y tywydd yn well a braf oedd gweld Chwarel y Penrhyn a’r phentrefi’r ardal. 

Diolch i Huw am rannu ei wybodaeth am yr ardal ac am arwain y criw ar lwybr ychydig yn wahanol i daith mis Gorffennaf. Diolch hefyd am gwmni Haf, Liz, Gwen, Dafydd, Dewi, Anne, Gwynfor, Nia, Huw, Iona,  Arwel a Buddug.

Adroddiad gan Rhys Llwyd.

Lluniau gan Rhys ar FLICKR