HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Craig y Garn, Eifionydd 17 Tachwedd


Daeth oddeutu 20 o aelodau ynghyd i fwynhau diwrnod gweddol gynnes a sych yn cerdded hen lwybrau Garndolbenmaen sy’n gweu o gwmpas yr hen fythynnod at odra Craig y Garn 313m.

Cawsom hanes yr Athro John Lloyd Williams a oedd y prifathro cyntaf i gychwyn yr ysgol gynradd yn y Garn oddeutu 1870 ac a aeth wedyn ymlaen i fod yn ffigwr cenedlaethol ym maes blodau a llysiau. ‘Roedd hefyd yn awdur toreithiog ac yn gerddor dawnus.

Wrth nesu at y copa ac edrych dros ysgwydd roedd holl ysblander tir ac arfordir Eifionydd a bryniau Pen Llyn i’w weld. O’r copa gellir gweld Cwm Pennant i’r gogledd sydd yn arwain y llygaid i Fwlch y Ddwy Elor yn y pellter.

Hon oedd y daith gyntaf i arweinydd gario di-ffibrilwr. ‘Roedd hwn wedi ei roi drwy garedigrwydd teulu Styllen, Y Parc er cof am Gareth Pierce a fu farw’n ddiweddar. Er bod y pecyn yn fach ac yn ysgafn mae cario hwn yn rhoi cyfrifoldeb trwm ar ysgwyddau yr arweinydd. Trosglwyddwyd y pecyn gan Buddug Morgan i arweinydd abl dydd Sadwrn sef Eryl. Diolch n fawr iddi hi.

Adroddiad gan John Parry

Lluniau gan Anet, Arwyn a Iolo ar FLICKR