HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Cynfal a Llyn Morwynion 16 Mehefin


Addo diwrnod o gymylau isel a glaw mân, a hynny  yng nghanol wythnos o dywydd braf, oedd pobl y tywydd ond doedd pethau ddim cynddrwg â’r disgwyl a chadwodd y glaw draw tan tua’r awran olaf.

Mae’n daith sy’n rhannu’r dair rhan; y gyntaf trwy goedwig coll-ddail hyfryd Ceunant Cynfal cyn croesi’r ffordd fawr o Ffestiniog i Drawsfynydd i ran uchaf agored Cwm Cynfal. Cafwyd cinio yn yr un man â’r daith fis yn ôl, gyda Rhaeadr y Cwm yn y cefndir, ond gyda thipyn llai o ddŵr ynddo’r tro hwn. Croesi ffordd arall yn fuan wedyn, o Ffestiniog am Arenig y tro yma, i groesi mawnogydd y Migneint, trydedd rhan y daith, heibio ffermdy gwag Garreg Lwyd ac yna Hafod Ysbyty i Gwm Teigl ac yn ôl ar hyd y ffordd sy’n arwain at Chwarel Manod.

Cofiwyd am Huw Llwyd (mae peth o’i hanes yn adroddiad taith 12 Mai) a’i ‘bulpud’, yng nghanol afon Cynfal. Teimlai’n ddiogel rhag y Diafol i bregethu yno gan nad yw’r Gŵr Drwg yn hoff o ddŵr! 

Ymysg amryw o straeon sydd wedi tyfu o’i amgylch mae un yn sôn sut y bu iddo ddatrys dirgelwch mewn gwesty ym Metws-y-coed, oedd yn cael ei gadw gan ddwy chwaer, lle’r arferai milwyr aros ar eu taith i Iwerddon. Er iddynt gloi drysau eu llofftydd, erbyn y bore byddai eu holl arian wedi diflannu, heb unrhyw ôl bod neb wedi torri mewn i’r ystafell. Arhosodd Huw Llwyd yno, gan orwedd ar ei wely yn esgus cysgu, gyda’i gleddyf yn barod wrth ymyl. Clywodd sŵn crafu a gwelodd dau bâr o oleuadau gwyrdd bychan bach yn y gornel a sylweddol mae dwy lygoden oedd yno, yn cripian yn araf tuag at ei gwdyn arian. Neidiodd o’i wely a’u hymlid gan daro un llygoden ar ei phawen chwith wrth iddi sgrialu yn ôl i’r twll yr oeddynt wedi dod drwyddo.

Y bore wedyn, doedd dim sôn am un o’r chwiorydd ac eglurwyd nad oedd yn teimlo’n rhy dda. Mynnodd Huw Llwyd gael ei gweld a chanfod bod ei braich chwith wedi ei rwymo mewn cadachau gwaedlyd! Gan ei fod wedi darganfod yr hyn oedd yn digwydd torrwyd y swyn ac ni fedrai’r ddwy chwaer fyth mwy droi eu hunain yn lygod er mwyn lladrata oddi ar eu gwesteion!
Oedwyd wrth Lyn y Morwynion i ddwyn i gof rhagor o chwedleuon (gweler adroddiad 12 Mai). Mae sôn am y llyn yn y Mabinogi. Oherwydd ei hanffyddlondeb gyda Gronw Pebr, roedd Blodeuwedd a’i morwynion wedi gorfod dianc o’i llys ym Mur Castell (Tomen y Mur ger Trawsfynydd) rhag dialedd Gwydion a Llew Llaw Gyffes, ei gŵr. Roedd y morwynion yn edrych dros eu hysgwyddau bob munud gan fod arnyn nhw gymaint o ofn felly wnaethon nhw ddim gweld y llyn a syrthion nhw i gyd iddo a boddi. Dialwyd ar Blodeuwedd trwy ei throi’n dylluan a’i thynghedu i beidio a dangos ei hun byth mwy yng ngolau dydd.
A chafwyd un cysylltiad bach arall â’r dyddiau fu, trwy weld y garreg fedd ‘Cantiorix, dinesydd Venedos’ – y cofnod cyntaf o’r enw Gwynedd, mae’n debyg. Copi yw’r garreg hon, ger adeiladau gwaith trin dŵr; mae’r gwreiddiol, am rhyw reswm, yn Eglwys Penmachno.

Erbyn hynny roedd mwy na niwl y gorffennol yn cau amdanom ond ar i lawr oedd hi wedyn yn ôl i Lan Ffestiniog mewn pryd i bawb (heblaw un o Geredigion efallai) gyrraedd adref i wylio’r cochion mewn crysau melyn yn curo Twrci yn Baku!  

Diolch i Rhiannon a Clive, Arwyn o Gricieth, Nia Wyn Seion, Nia, Winnie a Margaret o Fôn, Iona a Lis o gyffiniau Llanrwst, Dylan Evans a Glyn Tomos o Gaernarfon, Judith o Benrhyn-coch, Jane a Buddug o Benmachno, a John (Port) Williams am ei cwmni.

Adrodiad gan Eryl

Lluniau gan amryw ar FLICKR