HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arenig Fawr a Moel Llyfnant 13 Mehefin


Dyma 10 o aelodau yn cyfarfod ar y gyffordd lonydd Llan Ffestiniog, y lon newydd o Drawsfynydd i Bala, a Llidiardau sef Pont Rhyd y Fen. Wedi'r ymdrochi yn yr eli haul, dyma ni yn cychwyn ar hyd yr hen linell trenau o Bala i Drawsfynydd a'i ddilyn tan y troed am lwybr trol syn arwain am Amnodd-wen. Wedi ei ddilyn am tua hanner milltir dyma ni yn troi yn sydyn i'r chwith ac i fyny’n serth am ysgwydd Craig yr Hyrddod ar y gogledd orllewin o’r Arenig Fawr, lle cafwyd panad cyn cychwyn ymlaen am gopa'r Arenig ei hun. Seibiant yno i ddarllen y plac atgofiant o’r ddamwain awyren o’r 1940au a edrych ar y golygfeydd 360 gradd o Eryri, Bryniau Clwyd a’r Amwythig cyn cinio yng nghysgod copa deheuol yr Arenig.

Ymlaen wedyn ac i lawr am Geunant Coch (oedd trwy lwc yn weddol sych) ac am lethr serth Moel Llyfnant. Y llethr yma wedyn yn rhoi cyfle i ambell aelod cael ’chydig bach o sgramblo byr ar sawl graig a’r gweddill yn troedio'r sgri serth am drysor y daith, lle cafodd sawl un  ohonom amser i’w ymchwilio’n ddyfn ac yn fanwl, a chasglu tamaid o fwyn cyn dringo eto i'r copa ei hun. (Hen ogof manganese oedd y ‘trysor’. Diolch i Keith am ei dangos inni - Eryl)

Panad a seibiant wedi'r dringo serth at gopa Moel Llyfnant ac unwaith eto mwynhau'r olygfa am ben draw'r Llŷn a gogledd Meirionydd, cyn dechrau lawr am Amnodd Bwll a nol i'r man cychwyn trwy Goed Cefn Glas, wrth fynd heibio Yr Orsedd, Dol Benlas ac ymuno eto â’r hen linell trenau Bala i Drawsfynydd.

Taith gyfan o 8.5 milltir mewn haul poeth clir a mymryn o awel adfywiol. Yr cerddwyr oedd: Dafydd Legal, Gareth E, Llinos Port, Gwyn Roberts, Eryl Penmachno, Sandra ac Ariannell Gwalchmai, Tegwyn Dinas Mawddwy, Nia Meacher a finnau Keith Tân.

Diolch i bawb am ddiwrnod hamddenol dda.

Adroddiad gan Keith

Lluniau gan Keith, Ariannell ac Eryl ar FLICKR