HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib Lem 13 Mehefin


Mentrodd 7 ohonom ar fore braf y Sul, o faes parcio Pantdreiniog i fyny drwy Gerlan i gyfeiriad Cwm Pen Llafar. Cyn cyraedd Afon Genllusg,mi roedd pawb yn chwys doman ac fe fydd rhaid cael seibiant sydyn i gael diod a rhoi eli haul.

Ymlaen wedyn i waelod Llech Du i gael panad yn y cysgod gyda sŵn y dŵr, y Gigfran ar Fran goesgoch fel cwmpeini. I fyny trwy sgri wedyn ac i gyfeiriad Llwybr Cerrig Gwynion a’r Grib Lem. Mi roedd pawb yn mwynhau y sgrialu ac yn teimlo’n siomedig pan ddaeth i grib i ben, ymlaen i gopa Carnedd Dafydd a cinio, cyn mentro am Pen yr Ole Wen a golygfa bendigedig. I lawr wedyn i Fwlch yr Ole Wen a Carreg Fran ac i lawr Braich Tŷ Du i Gefn yr Orsedd.

Ar ôl edrych yn dôl am y mynyddoedd cawsom gysgod y goedwig yn Penbraich ar y ffordd lawr i Braichmelyn. Ffodus iawn oedd cael tywydd mor braf a sych.

Diolch yn fawr iawn i Dyfed, Dylan, Eirwen, Gethin, Rhian a Richard am ei cwmpeini.

Adroddiad gan Chris

Lluniau gan Richard ar FLICKR