Taith y Turcan 12 Mehefin

  
Mwynhaodd y criw daith gerdded ar ymylon gorllewinol Bannau  Brycheiniog ar ddiwrnod hyfryd, cynnes a heulog ym mis Mehefin. Braf oedd gallu  dal lan gyda ffrindiau eto ac o’r diwedd, dechrau gobeithio bod y misoedd  annaearol dan gysgod Covid y tu ôl inni.
      
    Cyfarfu deg ohonom ni “Dros Y Mynydd Du o Frynaman” yn y  maes parcio bach uwchben Gwynfe (Bruce, Dewi, Elin, Eurig, Gareth, Pens, Pwt,  Rhun, Siân ac Alison). Tristwch i bawb oedd clywed gan Siân mai hon fyddai ei  thaith olaf gyda ni yn y De.
    
    Dechreuodd y llwybr gan fynd trwy’r hen chwareli  calchfaen a ddisgrifiwyd yn dda gan George Borrow yn 1854 ar ei daith drwy  Gymru. Dilynom y ffordd Rufeinig, fel y’i gelwir. Ond nid ffordd Rufeinig mo  hon, na Neolithig chwaith; roedd yn arfer cael ei defnyddio er mwyn cludo  calchfaen dros y mynydd i Frynaman.
    
    Ar ôl dargyfeiriad byr lan Carn Pen-y-Clogau, gadawon ni’r  ffordd Rufeinig a mynd ar draws gwlad, gan ddilyn llwybrau aneglur i gyrraedd y  carneddau amlwg i’r gorllewin, sef Tair Carn Uchaf a Tair Carn Isaf (a elwir yn  lleol yn “y Turcan”). Mae’r rhain, fel y garn lai, Pen-y-Clogau, yn safleoedd  claddu o’r Oes Efydd, (2500–800 CC) lle roedd gweddillion wedi’u hamlosgi yn arfer  cael eu gorchuddio â cherrig yn union o dan y gorwelion, er mwyn i bawb allu eu  gweld o bellter.
    
    O’r fan hon roedd golygfeydd gwych – pen gorllewinol maes  glo De Cymru i’r de; Gogledd Penrhyn Gŵyr; Dyffryn Aman ac ysblander gwledig sir  Gâr i’r gogledd; cyferbyniad yn wir!
    
    Yna disgynnon ni ar draws gwlad (doedd dim llwybrau troed,  dros dir garw ac anodd – i gyrraedd y dyffryn sych (ar y cyfan) – cwm Gwythwch.  Gwnaethom ni ein ffordd ni yn ôl ar hyd crib Carreg Las, Banc Wern Wgan a  Phentir Blaen Cennen a chwareli hynafol Pâl y Cwrt.
    
    Dros yr ardal gyfan mae olion cylchoedd, cytiau a  ffermydd o’r Oes Efydd, yn ogystal â dwsinau o lync-dyllau bach amawr.
    Mae'n debyg bod ogof fawr danddaearol heb ei darganfod  eto a fydd yn cysylltu ag ogof hysbys, sef Llygad Llwchwr. Mae afon Llwchwr yn  tarddu tua 3km i’r gorllewin o’r Turcan ac mae’n olygfa braf pan fydd  llifeiriant o ddŵr, a’r dŵr hwnnw’n dod yno o nifer o lync-dyllau hyd at 6km  i’r gorllewin.
    
    Daethom o hyd i un o’r llync-dyllau mwy – Pwll Cwm Sych –  hwn sy’n cymryd y rhan fwyaf o’r dŵr sy’n draenio i ogof Llygad Llwchwr. Mae llync-dwll  hwn wedi ei gloddio i lawr sawl metr, ond dydyn nhw ddim wedi torri trwodd i  unrhyw ogof newydd eto.
    
    Roedd ein llwybr yn ôl i’r maes parcio yn dilyn Ffordd y  Bannau, llwybr troed hir arall sydd tua 99 milltir o hyd – o Gastell Carreg  Cennen i Gastell y Fenni – ond heb ei arwyddo’n dda!
    
    Er nad yw’r Bannau ymylol cyn uched a mor mawreddog â’r  Bannau mwy adnabyddus, maen nhw’n wyllt, yn anghysbell ac yn brydferth dros  ben, gyda llai o bobl yn eu troedio. Serch hynny, os ydyn nhw o dan glogyn o  niwl (sy’n digwydd yn aml), mae dod o hyd i’r ffordd yn mynd yn anodd dros ben.
    
    I gloi diwrnod perffaith, mwynhaon  ni beint yng ngardd y Derlwyn Arms ym Mrynaman.
    
    Adroddiad gan Alison
      
    Lluniau gan Alison ar FLICKR
