HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Cynfal a Llyn y Morwynion 12 Mai


Peth braf yw cael eich siomi ar yr ochr orau! Er ei bod pawb wedi cael cawodydd trymion ar y daith i Ffestiniog, erbyn 10.00 roedd mymryn o awyr las i’w weld a chiliodd y glaw wrth i ni gerdded lawr i geunant Cynfal a bu’n ddiwrnod sych a heulog o hynny ymlaen. Ond diolch i’r glaw cawsom olygfeydd trawiadol o afon Cynfal mewn lli a Phulpud Huw Llwyd yn codi o’r dŵr gwyllt.

Mae Huw Llwyd yn gymeriad hanesyddol go iawn, yn filwr a fu’n ymladd yn yr Iseldiroedd tua diwedd y 1580au ac mae cofnod mai ef oedd yn byw yng Nghynfal Fawr yn 1629. Mae’n debyg iddo farw’n fuan wedyn. Roedd yn fardd medrus, yn gaplan yn y fyddin ac yn feddyg gwlad – ond hefyd yn ‘ddyn hysbys’ a feddai ar ddoniau dewiniaeth. Arferai bregethu a melltithio ysbrydion drwg o’i bulpud yng nghanol yr afon!

Wedi croesi’r ffordd fawr o Ffestiniog i Drawsfynydd newidiodd natur y daith, wrth inni adael y ceunant i gerdded doldir agored rhan uchaf y cwm. Dringfa serth oedd hi wedyn, gyda Rhaeadr-y-cwm yn y cefndir, i fyny i’r Migneint a chroesi ffordd arall – o Ffestiniog i Arenig – a cherdded tir corsiog a gwlyb iawn tuag at Lyn Morwynion. Sylwi ar hen gribyn wair ar ochr y llwybr – pry copyn, meddai Gwyn, ar lafar gwlad – gan ryfeddu bod gwair yn cael ei hel yma hyd at ychydig ddegawdau yn ôl.

Yn ôl un chwedl, roedd criw o lanciau wedi hudo morwynion o Ddyffryn Clwyd i ddychwelyd gyda hwy i Ardudwy ond daliwyd hwy gan ddynion Dyffryn Clwyd; lladdwyd y llanciau a’u claddu mewn llecyn gerllaw, Beddau Gwŷr Ardudwy, tra dewisodd y merched foddi eu hunain yn y llyn yn hytrach na dychwelyd gyda llofruddwyr eu cariadon.

Mae chwedl arall yn cysylltu’r llyn a’r Mabinogion – a chan na fedrai neb gofio beth oedd y cysylltiad, roedd rhywbeth yn od iawn mewn gwrando ar Aneurin yn adrodd stori a luniwyd mil a mwy o flynyddoedd yn ôl o’i ffôn unfed ganrif ar hugain!

Ymlaen â ni heibio dŷ gwag Garreg Lwyd, croesi afon Gamallt (nant fach go iawn) ger Hafod Ysbyty ac i lawr i Gwm Teigl a dilyn y ffordd nol i Ffestiniog. Diwrnod gwych – golygfeydd arbennig a thywydd da ond pawb hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyd-gerdded unwaith yn rhagor.

Deuddeg o gerddwyr: Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, Eirwen ac Alun, Dilys ac Aneurin, John  Arthur, Gwyn Williams, Anne Cooper, Haf Meredydd ac Angharad ac Eryl.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Anne, Eirwen, Gareth ac Aneurin ar FLICKR