HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Ddu o Dremadog 11 Rhagfyr


Er y rhagolygon am dywydd erchyll dydd Sadwrn dyma gyfarfod yn Nhremadog. Roedd na ddeuddeg yn ddigon dewr (neu gwirion) i ymuno ar y daith a pawb yn hwyliog er y glaw.

Dyma gychwyn wrth ddringo yn serth i fyny o Dremadog heibio creigiau Pant Ifan a fyny wedyn i ben clogwyni Mynydd Gorllwyn. Ymlaen wedyn ar hyd y topia a chael paned yn nghysgod y wal fynydd ar Moel Ddu. Cam byr wedyn i gopa Moel Ddu cyn dod yn ôl lawr i Ynys Wen a nol i Dremadog drwy Cwm Bach gan fachu ar y cyfle am gysgod i gael paned yn Beudy Mawr ar y ffordd.

Roeddwn i yn gwybod bod sawl un wedi bod i gopa Moel Ddu efo fi yn ddiweddar a’r bwriad y tro yma oedd dilyn llwybrau newydd, ond gan fod y tywydd fel ag yr oedd o – a neb yn gweld dim – doedd hynny ddim yma nac acw!

Diolch i Arwel, Sioned, Gaenor, Elen, Dylan, Gwyn Llanrwst (neu Gwyn Glaw), John Arthur, Eirwen, Iolyn, Dei a Dafydd Legal am eu cwmni.

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR