HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Marchlyn 6 Mehefin


Daeth 12 ohonom ynhyd ar y daith, sef Alice, Eirlys, Iolyn, Gethin, Llinos, Robat, Steve, Wil, Dafydd, Eirwen a Rhiannon. Braf cael cwrdd a wynebau newydd a’r rhai cyfarwydd.

Dringo’n eithaf called ar y dechrau i gyrraedd copa Elidir Fach. Yna ymlaen gyda’r ffens at ben gorllewinol cefnen Elidir Fawr. Oedi am ginio ar lecyn gwyrdd. Ymlaen wedyn am Fynydd Perfedd a Charnedd y Filiast. Cip olwg wrth basio ar y llethrau creigiog trawiadol ar ochr dwyreiniol Carnedd y Filiast. (Oes rhywun yn gwybod am enw ar y llethr hwn?) Buom yn ffodus o gael copaon clir drwy gydol y daith.

Adroddiad gan Raymond Wheldon-Roberts.

Lluniau gan Raymond ar FLICKR