HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penmachno 29 Medi


Chwyldro o fewn Clwb Mynydda Cymru! Taith Ddydd Mercher ar ddydd Mawrth! Ond roedd rheswm da dros y newid, gan i ni fwynhau tywydd rhagorol tra bod y glaw disgwyliedig wedi cyrraedd wrth i mi lunio’r adroddiad hwn drannoeth y daith.

Dilynwyd yr un llwybr yn union â’r daith bythefnos yn ôl (16 Medi) ac er bod y tawch yn hirach yn codi, buan y cafodd ei fwyta gan yr haul cynnes a chawsom olygfeydd cofiadwy o Ddyffryn Conwy, dyffryn Lledr yn union oddi tan i hen ffermdy Fedw Deg (lle cafwyd cyfle i dynnu llun y Cadeirydd ym mynedfa ei blasty) gyda chopaon Eryri yn rhes hir yn y cefndir y tu ôl i Foel Siabod. Wedi cinio ger hen ffermdy (gwag) Bwlch y Maen, cerddwyd i lawr y llwybr serth iawn a thros bontydd troed hwylus i gyrraedd adeilad hen gapel ac ysgol Cyfyng – gan gofio bod plant y ffermydd hyn yn gorfod gwneud y daith hon, ac yn ôl i fyny wrth gwrs, ddwywaith y dydd yn yr hen ddyddiau, a hynny ym mhob tywydd a heb ein dillad diddos ni!

Wynebwyd y rhiwiau serth i fyny o Cyfyng yn hyderus a buan y cyrhaeddwyd Tŷ Mawr a chyfle i ymlacio yno a sawru awyrgylch arbennig mangre geni’r Esgob enwog. Soniodd yr arweinydd iddo ddarllen erthygl yn ddiweddar am ei blentyndod, o bapur newydd ddiwedd y 19eg ganrif, oedd yn cyfeirio at y gŵr mawr hwn fel ‘Billy Bach’!

Parhaodd yr haul i dywynnu’n garedig ar gymal olaf y daith yn ôl ar hyd cyfuniad o lwybrau a ffordd i Benmachno. Y criw y tro yma oedd Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, Anet, Gwyn Chwilog, Gwyn  Llanrwst, John Arthur, Iona Evans, Gaenor, Nia a Meirion o Lanfair-pwll ac Angharad ac Eryl.

Mae peth o hanes y Fedw Deg ynghlwm wrth adroddiad taith 16 Medi, os oes gennych ddiddordeb.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Iona, Anet a Gareth ar FLICKR