HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Clwyd 29 Chwefror


Roedd y rhagolygon tywydd  am Ddydd Sadwrn yn wael iawn, gydag addewid o wyntoedd hyd at 70 milltir yr awr. Er hynny daeth wyth ohonom i Fwlch Pen Baras, cyn teithio draw i Bodfari  trwy Gilcain ac Afonwen.

Roedd y daith i ddilyn Llwybr Clawdd Offa ar hyd asgwrn cefn Bryniau Clwyd. Oherwydd yr addewid am dywydd gwael, aethom i fyny ysgwydd Moel y Parc, heibio ardal o’r enw’r Aifft, er nad oedd pyramid yn agos ! Pen y Cloddiau oedd yr hengaer gyntaf a’r copa cyntaf i ni ei chyrraedd.

Oherwydd y gwynt cryf a chyson byrhoedlog fu ein arhosiad yma, cyn disgyn i fwlch Llangwyfan, a chysgod i gael cinio. Ymlaen wedyn i fyny ‘n serth i gopa Moel Arthur, cyn disgyn eto i fwlch arall, dim ond i ddringo eto am gopa Moel Dywyll, ac ymlaen tuag at gopa Moel Famau. O Foel Dywyll hyd at Moel Famau roedd y gwynt yn eithriadol o gryf, a phrin yr oeddem yn medru cerdded erbyn hyn heb i’r gwynt ein hyrddio.

Wedi arhosiad byr ar y copa, disgyn i gyfeiriad Bwlch Pen Baras a chysgod cymharol.

Ni fu’n ddiwrnod i sgwrsio’n hamddenol wrth gerdded, ond cawsom ddiwrnod difyr iawn, gyda golygfeydd gwych o Ddyffryn Clwyd, gyda’r Afon Clwyd wedi gorlifo fel caeau reis.

Diolch am gwmni Iolyn a Dwynwen o Ardudwy a Phorthmadog, Robat, Meilir a Noel o Rhuthun ynghyd a John Arthur a minnau o Lanrwst.

Adroddiad gan Gwyn williams.

Lluniau gan Gwyn ar FLICKR