HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arfordir Eifionydd a’r Lôn Goed 25 Tachwedd


Gan nad oedd lle i bawb ar y daith gyntaf (11/11/20) fe gafwyd un arall ar 25/11/20.

Y rhai a ymunodd y tro yma oedd Arwyn, Iona, Anne ,Jane, Erddyn, Rhys, Clive, Rhiannon, Iolo ap Gwynn a finnau.

Ymddiheuriadau i'r rhai nad oedd lle iddynt 'roedd 12 wedi dweud eu bod am ddod cyn iddynt gysylltu.

Cafwyd tywydd hynod o braf a'r golygfeydd yn eithaf clir. Gwnaed yn union yr un daith a'r gyntaf ond roedd  rhan fwyaf o ddail yr Hydref wedi diflannu erbyn hyn. Ymgasglodd y rhan fwyaf ohonom yma yn Afallon cyn ymadael am adref. Diolch i bawb am eich cwmni difyr.

Adroddiad gan Gwyn

Lluniau gan Anne, Gwyn, Iolo ag Arwyn ar FLICKR