HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwmystradllyn, Moel Ddu a Chreigiau Tremadog 22 Tachwedd


Ar ôl treulio dydd Sadwrn yn diawlio’r gwynt a’r glaw, dyma gyfarfod yn Nhremadog bore dydd Sul o dan awyr las ddi gwmwl.

Roedd y criw yn cynnwys Gaenor, Morfudd, Paula a Gwyn, Iolo, Arwel, Raymond, Iolyn, Dylan , Gerallt a fi. Ac efo amryw wedi bod ar deithiau gwlyb iawn yn ddiweddar roedd pawb yn hapus.

Dringfa gynta’r diwrnod oedd i fynu drwy Cwm Mawr a chael golygfeudd gwych o Borthmadog a’r Traeth Mawr. Ymlaen wedyn heibio “Giatws Uffern”  i Gwmystradllyn ac o amgylch y llyn i Chwarel Gorseddau. 

Ar ôl panad, dringo i fwlch Cwm Oerddwr ac ymlaen i gopa Moel Ddu. Roedd hwn yn gopa newydd i ambell un o’r criw a braf oedd cael mynd a pobl i ardal oedd yn newydd. Tro hamddenol wedyn  ar hyd crib Mynydd Gorllwyn cyn disgyn lawr trwy Pant Ifan yn ôl i Dremadog.

Diolch i bawb am eu cwmni

Adroddiad gan Dwynwen .

Lluniau gan Gerallt a Morfudd ar FLICKR