HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Moelwynion 20 Medi


Efo rhagolygon y tywydd yn gaddo haul a mwy o haul dyma gyfarfod yng Nghroesor yn anghymdeithasol o gynnar er mwyn sicrhau lle parcio i’n holl geir. Fel y teithiau eraill, roedd y daith yma wedi cyrraedd y deuddeg wythnosau yng nghynt a braf oedd cael cwmni Morfudd, Sioned, Iolo, Gaenor, Iolyn, Dei, Cheryl, Dylan, Tegwen, Manon a Gerallt.

Gan fod y daith yn dilyn cymal Cylch Paddy Buckley drwy’r Moelwynion pleser oedd medru gadael i’rcriw wybod fod record Paddy Buckley wedi ei thori bythefnos ynghynt a bod Math Roberts wedi dod a’r record yn ôl i Gymru efo amser o 16 awr a 37 munud.

Dringo Cnicht oedd gynta’ cyn mynd ymlaen i gael paned ger Llyn yr Adar. Ymlaen wedyn i gopaon Moel Druman ac Allt-Fawr, copaon newydd i rai o’r criw. Wedyn, anelu heibio Llyn Conglog a Llyn Cwm Corsiog i Chwarel Rhosydd am ginio. O'r chwarel, syth i fynu dros dir garw i gopa Foel Ddu cyn cychwyn ar gylch oedd yn cynwys copaon Moel yr Hydd, Moelwyn Bach, Craig Ysgafn a Moelwyn Mawr. Cafwyd paned a seibiant haeddianol yn y haul ar ochor Craig Ysgafn a chymerodd dipyn o berswad i gael y criw i ail gychwyn. Ar ôl disgyn yn serth o gopa Moelwyn Mawr i chwarel Croesor tro hamddenol i lawr Cwm Croesor i orffen y daith.

Diolch i bawb am eu cwmni

Adroddiad gan Dwynwen 

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR