HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Mawr, Y Llwybr Llechi a Llyn Nantlle 17 Hydref


Pan gyfarfu naw ohonom ar groesffordd Y Fron ar fore braf o Hydref roeddem un yn brin. Lle’r oedd Huw Myrddin tybed. Daeth yn hanner awr wedi naw a dim golwg ohono. Roeddem ar gychwyn pan ddaeth bloedd gan rywun llygadog, ‘Dacw fo yn rhedeg i lawr yr allt.’ Mi gyrhaeddodd Huw a’i wynt yn ei ddwrn, ond lle’r oedd o wedi bod?

Wel, mi gyrhaeddodd Huw groesffordd Y Fron (yn ei feddwl) mewn da bryd am naw o’r gloch. Pen chwarter awr doedd dim golwg o neb arall felly dyma gychwyn cerdded ar hyd y lôn yn y gobaith o weld rhywun. Toc, mi sylwodd ar arwydd oedd yn dangos ei fod yn gadael pentref Carmel. Carmel! Lle’r oedd Y Fron ‘ta? Yn ôl fforddolyn clên oedd yn digwydd pasio, milltir ymlaen ar hyd y ffordd. A hithau’n ben set doedd ryfadd bod Huw yn dod ar redeg.

Roeddan yn falch iawn o’i weld yn cyrraedd wrth gwrs a medron gychwyn ar ein taith yn dawel ein meddyliau nad oedd neb wedi ei adael ar ôl. Y naw arall ohonom oedd Nia Wyn, Nia M, Rhiannon James, Rhiannon H-J, Gwyn Chwilog, Gwyn Llanberis, Keith (Port), Iolyn, a finna, Anet, yn dirprwyo yn lle Elen oedd yn manteisio ar dywydd braf Yr Alban.

Roedd y daith yn cychwyn drwy’r pentref ac yn dilyn llwybrau chwarel wedi i’r lôn bost ddod i ben nes cyrraedd troed Mynyddfawr. Dringo’r mynydd yn ara deg gyda saib neu ddwy i werthfawrogi’r golygfeydd eang o’n cwmpas a diolch nad oeddan ni yn y niwl fel y copaon uchaf.  Seibiant byr ar y copa ond heb loetran gan iddi oeri’n sydyn, yr unig bryd iddi deimlo’n oer yn ystod yr holl daith.Golygfeydd gwahanol wrth ddilyn y grib lydan i gyfeiriad Rhyd-ddu tros Foel Rudd a Gwyn Llanberis yn tynnu ein sylw at ddringfa Angel Pavement ar Graig y Bera wrth i ni fynd heibio(dringfa y buo fo a’r Gwyn Roberts arall yn ei dringo). Taro ar y Llwybr Llechi lle’r oedd yn dod o’r coed o gyfeiriad Rhyd-ddu a’i ddilyn wedyn yr holl ffordd yn ôl i’r Fron. Roedd hen argae tan Glogwyn y Garreg yn fuan wedi cychwyn i lawr y dyffryn yn ddelfrydol i gael cinio, digon o le i ymbellhau a’r haul yn gynnes.  Ymlaen wedyn heibio ffermydd Drws-y-coed a Thalymignedd a sylwi wrth groesi’r lôn rhwng y ddwy ar y  garreg fawr ddaeth i lawr ochr y mynydd a chwalu Capel Drws-y-coed yn 1892. Dilyn Llyn Nantlle i’r lôn wedyn a rhyfeddu  at yr olygfa glasurol tua’r Wyddfa a ddenodd lygad sawl arlunydd. Roedd rhan ola’r daith yn dilyn hen lwybrau drwy chwarel Penyrorsedd yn ôl i’r Fron.

Taith hamddenol ar dywydd delfrydol a phawb yn falch o’r cyfle i gymdeithasu cyn bygythiad y clo. Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Anet a Gwyn ar FLICKR