HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Grinllwm a Bro'r Llynnoedd 14 Hydref


Daeth deuddeg ohonom ynghyd  i Drefriw ar fore braf wedi dyddiau llaith a glawog.  Roeddwn i yn falch o gael y daith am sawl rheswm; roedd cael taith gyda’r deuddeg ohonom yn aelodau o Sir Conwy  yn arwydd o’r ffordd y medrwn mae’n bosibl  gael teithiau’r clwb yn ddiogel am wythnosau os nad misoedd i ddod. Roeddwn hefyd yn medru rhannu bryncyn gyda golygfeydd godidog o Ddyffryn Conwy gyda’r criw. Dim ond 287m yw uchder y Grinllwm, ond a minnau wedi edrych arno’n gyson o drws ffrynt y tŷ am dros 38 mlynedd, roedd ei wirioneddol “ddarganfod” yn ystod y cyfnod clo mawr yn rhywbeth arbennig.

Mae’r Grinllwm fel wy; mae’n rhaid ei ddringo o bob cyfeiriad gan ddisgyn hefyd wedi cyrraedd y copa. Aethom i fyny llwybr serth ar ochr ddwyreiniol y Grinllwm tuag at gymuned Llanrhychwyn; ar hyd y ffordd am ychydig, cyn troi yn ôl i ddringo tua’r copa ar y llwybr rhwyddaf, ac wrth ddod i’r copa gweld Dyffryn Conwy yn ymagor o’n blaenau i’r de ar gogledd. Trueni fod y coed pinwydd wedi tyfu gormod i arddangos tref Llanrwst  yn gyfan, er inni weld yr Hen Bont Fawr trwy’r tes boreol.

Disgyn yn serth i gyfeiriad Cwm Crafnant a choed Cwmannog, gan ddilyn llwybr braf ar hyd ymyl y cwm i gyfeiriad Llyn Geirionnydd, gan fynd heibio olion mwyngloddio yr hen “Klondyke”. Ysbaid am ginio ar lan llyn Geirionnydd, cyn dilyn llwybr ar hen ffordd Rufeinig Sarn Helen tuag at safle gwaith mwyngloddio y “ Pandora”, a mwynhau golygfa wych o’r llyn wrth ddringo. Heibio Llyn Glangors ynghyd a dwy gronfa ddŵr fechan yn llechu ynghanol y goedwig, cyn disgyn  ar lwybrau difyr i gyrraedd Ysgubor Wen ar waelod Dyffryn Conwy. Croesi’r briffordd a cherdded ar y cob, sy’n atal llifogydd, tuag at Bont Gower ac Afon Conwy ar gyrion tref Llanrwst. Yna dilyn y llwybr caled yn ôl i Drefriw.

Diolch am gwmni Liz ac Aneurin o Rowen; Jane ac Anne , Eryl ac Angharad o Benmachno; Iona o Bandy Tudur , Arwel o Fae Colwyn; gyda Elizabeth, Huw Prys ac Eifion o gyffiniau Llanrwst.

Adroddiad gan Gwyn Williams

Lluniau gan Aneurin, Angharad, Gwyn, Iona a Jane ar FLICKR