HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Oergwm 14 Mawrth


Dyma griw ohonom yn cyfarfod ym mhentref Llanfrynach.
(Helen, Sian, Eileen, Digby, Eurig, Pwt, Pens, Rhun a minnau) ychydig filltiroedd tu allan i Aberhonddu. Y bwriad oedd esgyn fyny ddau gopa dwyreiniol y Bannau sef Bwlch y Ddwyallt a Fan y Big.

Gan ddechrau o ganol y pentref wrth yr Eglwys dyma godi yn gyson a raddol heibio ochr orllewinol Pen y Bryn, i fan lle mae sawl llwybr yn cyfarfod yn rhiw Bwlch y Ddwyallt. Wedi oedi am baned roedd hi’n amser codi stêm i ennill ein gwres gan fod y tywydd wedi troi a’r copaon yn diflannu o bryd i’w gilydd gan gymylau a chawodydd o law.

Gan droi i’r gorllewin, dyma ddilyn crib Craig Cwareli. Mae’r golygfeydd dros Cwm Oergwm yn wych gyda chopaon Fan y Big, Cribyn, Pen y Fan a Corn Du mewn llinell – un tu ôl y llall.

Wedi mynd heibio pen Cwm Oergwm, roedd hi’n amser cael cinio mewn llecyn bach cysgodol i osgoi y gwynt.

Dyma gerdded draw i gopa Fan y Big (719 m) ble mae sawl llun wedi ei dynnu dros y blynyddoedd gan gerddwyr yn sefyll ar garreg sy’n cael ei ddisgrifio fel y bwrdd deifio.

Lawr a ni oddiar y copa ar hyd Cwm Cyff gan ddisgyn yn raddol oddiar y comin. Roedd llwybr caregog yn ein harwain at Pen yr heol gan groesi caeau i gyfeiriad Nant Menasgin. Gan ddilyn cwrs y nant dyma gyrraedd nôl i bentref Llanfrynach. Taith o thua 11 milltir.

Adroddiad gan Dewi.

Lluniau gan Dewi ar FLICKR