Gallt yr Ogof a’r Foel Goch 14 Mawrth

  
Ar ddiwrnod cymylog a glawog, roedd yn braf  canfod fod 23 wedi dod ynghyd yng Nghapel Curig. Ond er i ni weld enfys yn fwa  perffaith dros ein llwybr wrth inni baratoi i gychwyn, codi calon i’n siomi wnaeth  honno. O fewn rhyw chwarter awr o gerdded, roedd y cwmwl wedi cau amdanom a dim  ond wrth ddod i lawr ganol p’nawn y cafwyd unrhyw olygfa. Cafwyd glaw di-baid  hefyd, yn eithaf ysgafn am y rhan fwyaf o’r dydd ond yn drymach dros yr awr  ddiwethaf.
      
      Wedi mynd heibio’r Gelli, cartref y  naturiaethwr hynod, Evan Roberts, dringwyd llethrau Cefn y Capel ac ymlaen drwy  Fwlch y Goleuni cyn dringo’n serth i gopa Gallt yr Ogof (763 m). Llwyddwyd yno  i ganfod cornel gysgodol i fwynhau cinio haeddiannol cyn mynd ymlaen dros ragor  o dir gwlyb i ail gopa’r dydd, Foel Goch (805 m) – neu’r Foelgoch, mae’n debyg  yn ôl ynganiad traddodiadol bugeiliaid lleol. Ar ddiwrnod braf, mae yma olygfa  ragorol o wyneb dwyreiniol Tryfan ac o’r Glyder Fach.
      
      Rhagor o dir gwlypach fyth oedd o’n blaenau  wedyn wrth i ni gerdded i gyffiniau Llyn Caseg-fraith gan anelu am gopa Drws  Nodded ac yna i lawr Braich y Ddeugwm, gyda Chwm Tryfan ar ein chwith a Chwm  Gwern y Gof ar y dde at ffarm Gwern y Gof Isaf. Cymal olaf y dydd oedd y 4  km/2.5 milltir yn ôl i’r maes parcio ar hyd y llwybr sy’n dilyn hen ffordd yr  Arglwydd Penrhyn, ffordd sy’n dyddio nol i’r cyfnod cyn adeiladu’r A5.
      
    Y dau ddwsin namyn un fentrodd y tywydd gwlyb  oedd Elen Huws, Paula a Gwyn Roberts, Keith Roberts, Buddug Morgan, Gaenor  Roberts, Aneurin Phillips, Sue a Richard Roberts, Anet Thomas, Gwyn Williams  (Chwilog), Stephen Williams, Gareth Wyn, Anne ac Iola Till, Alun ac Eirwen,  Hilary a Chris, Edward Griffiths, Rhian Jones, Janet Buckles ac Eryl Owain. 
Adroddiad gan Eryl.
      
      Lluniau gan Aneurin ar FLICKR
