Arfordir Eifionydd a’r Lôn Goed 11 Tachwedd

  
Taith  yng nghornel dde orllewinol Eifionydd "y fro rhwng môr a mynydd" oedd  hon.
      
      Cychwyn wrth gapel Bryn Bachau ger Hafan y Môr a cherdded heibio  gorsaf drên Penychain, fferm Penychain i drwyn y penrhyn. 'Roedd y tywydd  braidd yn gyfnewidiol ac nid oedd y golygfeydd o'r Rhiniogydd ac Eryri cystal  ag arfer. 'Roedd yr olygfa ar hyd lan môr Abererch draw i Bwllheli a Llŷn yn  glir. Nid i'r cyfeiriad yma yr aethom ni, ond ar hyd rhan o lwybr yr arfordir  tuag at Afon Wen. Croesi honno, dilyn y traeth wedyn sy'n gyfochrog a  rheilffordd yr arfordir am dros filltir nes cyrraedd Tŷ'n y Morfa. Treulio  ychydig o amser wrth Afon Dwyfor cyn cerdded ar hyd y morglawdd ar hyd ei  glannau i Bont Fechan a chael cinio yno. Croesi'r ffordd fawr wedyn a dilyn y  llwybr heibio'r Glyn at y bont droed a thros afon Dwyfach . Cerdded ychydig ar  y ffordd fach at bont Talhenbont. 'Roedd lliwiau’r dail hydrefol yn hyfryd yn y  ceunant yma, cyrraedd y Lôn Goed ger Hidiart a cherdded ar ei hyd heibio hen  gapel Engedi yn ôl i’w phen yn Afon Wen. Yna y llwybyr beics yn ôl at y ceir.  
      
      Cafwyd paned cyn ffarwelio. 
      
    Yr "eneidiau hoff cytûn" oedd ar y daith yma oedd Rhiannon  HJ, Nia Wyn (Seion), Gareth Tilsley, Ellis, Haf, Anet, Linda, Nia Wyn  (Llanfairpwll), Mags,  Winnie a finnau. 
Bydd ail gyfle i wneud y daith ar Tachwedd 25 hefo 12 arall.  Ymddiheuriadau am nad oes lle i rai eraill oedd am ymuno hefyd.
      
      Adroddiad gan Gwyn Williams (Chwilog) 
      
      Lluniau gan Gwyn ag Anet ar FLICKR
      
    
