HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Copaon y Berwyn o Faldwyn 7 Mawrth


Aeth 7 ohonom ar y daith (Eirwen ac Alun, Raymond, Richard a Sue, a Rob a finne), gan gychwyn o faes parcio Tafarn y New Inn, Llangynog (SJ 262054). Aethom o dan sawdl Craig Rhiwarth, ac i fyny’r cwm crog at fwlch Glanhafon, ac i lawr at Bistyll Rhaeadr. Roedd bwrlwm gwyllt y dŵr yn enfysu’n drawiadol yn yr haul wrth fynd drwy’r bwa bach.

Buom yn dringo’n raddol wedyn ar hyd cwm Nant-y-Llyn at Lyn Lluncaws, ac ymlaen i ben bwlch Moel yr Ewig ar ysgwydd Cadair Berwyn. Roedd Maldwyn wedi bod yng nghysgod y glaw tan hynny, ond ar y bwlch cyrhaeddodd rhyw wynt Albanaidd llorweddol (yn ôl profiad y rhai fu yno’n ddiweddar!) a hwnnw’n gyrru glaw o’i flaen. Ar ôl swatio am blwc a phwyllgor, a dim golwg o saib yn y gwynt, penderfynwyd rhoi gorau i ddringo i’w ddannedd ar y grib, a throi yn ôl i lawr y cwm, gan ddilyn llwybr gwahanol at y Pistyll.

Ac wrth gwrs, mewn hanner awr, llaciodd y storm, ac wrth inni edrych yn ôl, roedd y copaon yn gwenu (os nad chwerthin) arnom ni yn yr haul! Ar ôl croesi afon Rhaeadr dros y bompren uwchben y Pistyll, aethom dros ysgwydd y Clogydd yn ôl i’r cwm crog a throed Rhiwarth. Er siom troi’n ôl, cawsom ddiwrnod da, gan gasglu bydd yn rhaid dod yn ôl i wneud y daith yn llawn rywbryd eto.

Adroddiad gan Rhys Dafis.

Lluniau gan Rhys ar FLICKR