HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 4 Ionawr


Daeth 17 ynghyd ym maes parcio Pen y Pas ar gyfer taith gyntaf y clwb yn 2020, y daith draddodiadol i fyny’r Wyddfa, ar ddiwrnod cymylog o law mân. Ni chafwyd fawr ddim golygfeydd drwy’r dydd ond o leiaf doedd y tywydd fawr gwaeth ar y copaon nac a oedd yn y man cychwyn.

Wedi cyd-gerdded i Fwlch y Moch, rhannwyd yn ddau grŵp gydag wyth yn ei throi hi am Grib Goch a’r naw arall yn parhau ar hyd lwybr PyG. Digon tawel oedd hi ar y grib; cyfarfod un ar ei ffordd i lawr a thri’n croesi’r un pryd â ni a chyrhaeddwyd copa’r Wyddfa fel roedd y gweddill yn gorffen eu cinio yng nghysgod Hafod Eryri.

Dychwelodd criw llwybr PyG yr un ffordd ond aeth criw Crib Goch i lawr am Fwlch y Saethau a Bwlch Ciliau a thros Lliwedd i gwblhau’r Bedol a chael sychu wrth i’r tywydd godi rhyw gymaint tra’n cerdded llwybr y Mwynwyr nol i Ben y Pas.

Y cerddwyr oedd Huw o Bwllheli, Eirwen ac Alun, Rhys Dafis, Vanessa Priestley, Sue a Richard, Gerwyn, Dafydd Legal a chyfaill iddo – Wil Thomas, Sonia, Gwyn Roberts, Iolo Roberts, tri Gareth – Everett, Wyn a Pierce ac Eryl. Croeso arbennig i Gerwyn a Wil ar eu teithiau cyntaf efo’r clwb a rhannu’r wobr am yr ymdrech fwyaf i gyrraedd y daith rhwng Gareth, oedd wedi teithio’r holl ffordd o Langyndeyrn, a Gerwyn a oedd wedi beicio o Ben-y-groes!

Adroddiad gan Eryl Owain.

Lluniau gan Richard Roberts a Sonia ar FLICKR