HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Aran Fawddwy ac Aran Benllyn 31 Awst


Pump ohonom a lwyddodd i ddal y bws chwarter i naw o Lanuwchllyn i Ddrws y Coed ger Rhydymain. Doedd rhagolygon y tywydd ddim yn argoeli’n dda o gwbwl, ac mae’n debyg fod yr angen i gyrraedd Llanuwchllyn yn gynnar wedi trechu llawer ! 

Wedi dod i lawr o’r bws aethom i fyny trwy fuarth Esgair Gawr, a chael sgwrs gyda’r teulu wrth basio.

Ymlaen i fyny’r ffrithoedd a thrwy y goedwig  i gyrraedd y mynydd agored, ac wedi cawod drom neu ddwy, prin fu’r glaw wedyn, gan adael gorchudd o niwl mynydd trwchus. Anelwyd tua’r dwyrain, heb lwybr i’n harwain, ac  at ffens sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de ar hyd crib y ddwy Aran. Yna dilyn y ffens tua’r gogledd cyn esgyn i gopa’r Aran Fawddwy. Ymlaen ar hyd y grib (diolch am y ffens!) heibio Erw’r Ddafad Ddu ac i gopa Aran Benllyn.

Roedd y cymylau isel wedi codi i arddangos golygfeydd arbennig ond byrhoedlog yn ystod y bore; ond, o gopa ‘r Aran Benllyn  torrodd yr heulwen trwy’r cymylau gan adael golygfeydd ysblennydd o Benllyn a thu hwnt; o Ardudwy a’r Bermo yn y gorllewin  i Fryniau Clwyd ar Berwyn yn y dwyrain – arbennig iawn.

Cafwyd ennyd i gofio am Llew wrth fynd heibio’r maen, cyn disgyn yn ôl i’r Llan wedi diwrnod arbennig os nad heriol ar gyfnodau. Diwrnod i fynyddwyr dethol, a diolch am gwmni Haf, Erddyn, John Arthur a Gareth Pierce yr holl ffordd o Gwm Gwendraeth.

Adroddiad gan Gwyn Williams

Lluniau gan Gareth Pierce ar FLICKR