HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylch Cwm Bychan o Fwlch Gwilym i Fwlch Tyddiad 28 Ebrill


Cyfarfu 11 ohonom, sef, Eryl, Arwel, Raymond (Cwm Penmachno), Gwen (Chwilog), Nia Wyn, Dei a Cheryl, Gerallt a Dwynwen, Iolyn a fi (Eirlys), ym mhentref LLanbedr. Oddi yno aethom mewn tri char am Gwm Bychan.

Roedd storm Hannah wedi ein gadael diolch byth, gan adael diwrnod sych a’r gwynt wedi gostegu a’r unig beth i’n hatgoffa ohonni oedd dail newydd y tymor wedi eu chwythu o’r coed ar y ffordd.

Wedi cyrraedd Cwm Bychan, dechreuwyd cerdded ychydig yn ôl ar hyd y ffordd i gael y llwybr sy’n arwain i Fwlch Gwilym. Wrth gerdded y llwybr hwn, roedd yn werth troi i edrych am yn ôl ambell waith i weld prydferthwch llyn Cwm Bychan. Ar ôl cyrraedd Bwlch Gwilym, cafwyd seibiant i gael paned a mwynhau’r tawelwch. Gadawyd y llwybr hwn i gerdded i gyfeiriad y de tuag at Fwlch Tyddiad. Yma, mae’r tirwedd yn hardd ac yn wyllt, a mawr oedd yr edmygedd o’r golygfeydd hardd, o Drawsfynydd a thu hwnt i’r dwyrain a Chwm Bychan a’r môr i’r gorllewin. Mawr oedd ein hedmygedd o bensaerniaeth y waliau cerrig hefyd. Roedd angen cerdded dros ambell ddarn gwlyb a darnau eraill oedd yn greigiog. Wedi cerdded heibio Llyn Pryfed aeth pawb i gopa Craig Wion.
Ymlaen wedyn drwy hafnau crieigiog, gan aros i gael ein cinio yn un ohonynt. Cerdded ymlaen wedyn uwchben Llyn Morwynion cyn mynd ymlaen i Fwlch Tyddiad. Dilynwyd llwybr poblogaidd Bwlch Tyddiad i lawr yn ôl i Gwm Bychan, heb basio neb wrth fynd lawr, sydd yn beth eithaf anghyffredin.

Daeth y mwyafrif heibio Tyddyn Llidiart am baned wedyn.

Diolch i bawb a ddaeth ar y daith am eu cwmni hwyliog yn ystod y dydd.

Adroddiad gan Eirlys

Lluniau gan Eirlys a Gerallt Pennant ar FLICKR