HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Du 23 Mawrth


Er gwaetha’r teimlad annifyr a oedd yn dechrau cronni yn fy mol wrth i mi aros ar mhen fy hun bach ym maes parcio Neuadd Bentref Cwm Du, ymddanghosodd 10 aelod ac un darpar aelod dros y gorwel i gadw cwmni ar y daith.

Dyma fore dydd Sadwrn gwahanol i’r arfer i Gwm Du gan bod clebran criw Cymraeg yn drybowndio ar hyd y lon gefn wrth i ni gychwyn dringo heibio’r Eglwys – nes ymlaen daeth tŵr yr eglwys yn dipyn o nod arwyddocaol wrth i ambell un ‘ddychmygu’ eu bod nhw’n ei weld yn y pellter!

Parhawyd â’r sgwrsio diddan er gwaetha’r allt gynyddol serth – Alun Foyle enillodd y wobr am barhau i ddringo a sgwrsio’n ddidrafferth hyd nes i ni esgyn y 500 m i gopa Pen Gloch y Pibwr. Cawsom hoe a phaned haeddianol yn y cylch o gerrig yn y fan yna cyn symud tua’r de-ddwyrain trwy’r grug am Ben Cerrig Calch – un o’r enwau mynydd mwyaf disgrifiadol sydd gan ei fod yn ‘ynys’ o galchfaen yng nghanol môr o dywodfaen! Dyma gyfle i fwynhau’r golygfeydd dros Grughywel tua Fynydd Llangatwg gan mai dyma begwn dwyreiniol y daith cyn i ni droi am yn ôl ar hyd erchwyn gogleddol y llwyfandir am Ben Allt Mawr. Roedd yn dda gweld baw grugieir ar y ffordd – nid gweddillion ‘cigar’ fel roedd rhai’n credu oedd y pentwr ynghanol y grug! Cyrhaeddom lecyn ucha’r daith ar yr union amser iawn i fwyta’n cinio ger pwynt "trig" simsan iawn yr olwg.

Wrth i ambell i ehedydd wneud ei orau i’n argyhoeddi bod y gwanwyn wedi cyrraedd aethom ymlaen i Ben Twyn Glas, heibio hen gerrig ffin dwy stad ac wedyn i gopa ola’r daith sef Mynydd Llysiau. Teg dweud bod yr haul egwan a oedd yn ymddangos o bryd i’w gilydd yn ychwanegu at y naws gwanwynaidd. Cawsom hoe paned pnawn braf ar ochr cysgodol y bwlch cyn troi’n trwynau i lawr Dyffryn Rhiangoll ac yn ôl am Gwm Du a thafarn y Famers Arms am beinten i ddathlu’r daith 12 milltir o hyd.

Cadarnhawyd bod y gwnawyn ar droed pan welwyd Tinwen y Garn, y cyntaf eleni!

Diolch i Dewi, Pwt, Pens, John Rowlands, Rhun, Rhian Foniog, Alun, Pete, Rhys, Alison ac Alice am eu cwmni.

Adroddiad gan Sian Shakespear

Lluniau gan Dewi Hughes a Sian Shakespear ar FLICKR