HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Gribin, Glasgwm ac Aran Fawddwy 23 Mawrth


Daeth deg ohonom at ein gilydd ym maes parcio Blaencywarch ar ddiwrnod braf a sych – Iolo a Huw o Arfon, Rhys a Hywel W. o gyffiniau Dyffryn Clwyd, Eirlys a Heulwen, Peter (Machynlleth yn wreiddiol), Eryl a dwy o bobtu’r Aran, Mared o Ryd-y-main a Ruth o Fawddwy.

Er bod peth chwysu i fyny’r llwybr serth y tu cefn i ffermdy Perth-y-felin (a’i gysylltiadau a chanu penillion – a lle y cynhaliwyd nosweithiau llawen mor ddiweddar â’r 1970au beth bynnag), roedd ysbrydoliaeth, ac esgus i orffwys, i’w gael o edrych i lawr a rhyfeddu at gwm arbennig Cywarch. Wedi cyrraedd y gefnen, cafwyd dargyfeiriad byr i gopa cyfagos y Gribin, a chael golygfa wych o Gwm Maesglasau yn union gyferbyn ac o’r dyffryn i lawr i gyfeiriad Dinas Mawddwy a Mallwyd ac i fyny tua Bwlch Oerddrws.

Dilynwyd y gefnen tua’r gogledd ac wedi paned sydyn cyrhaeddwyd Llyn y Fign – yr ail lyn uchaf yng Nghymru – a chopa Glasgwm cyn disgyn yn serth i Fwlch Cosyn. Rhaid oedd cael cip ar yr enwog Loc y Llwynog, lle’r arferai bugeiliaid lleol ddenu llwynogod iddo er mwyn eu difa. Aed ymlaen wedyn i ddringo’n raddol tuag at gopa Aran Fawddwy a cheisio osgoi y gwaethaf o’r mannau gwlyb sy’n nodwedd o’r rhan yma o’r mynydd.

Yn anffodus, dioddefodd un o anaf i’w choes a rhaid oedd ei hebrwng i lawr i gyfeiriad Rhyd-y-main (aeth pedwar yn eu blaenau i’n cynrychioli ar y copa) gan fanteisio ar wybodaeth leol Mared a charedigrwydd ei thad (diolch yn fawr Kevin) yn dod i’n cyfarfod yn y ‘pick-up’. Pob dymuniad da i Heulwen gan obeithio y bydd yn gwella’n fuan a diolch iddi am ei sirioldeb ac am ein cadw i chwerthin ar y daith araf i lawr.

Dilynodd pedwarawd y copa – Iolo, Huw, Peter a Ruth – weddill y daith yn ôl y bwriad, gan ddychwelyd o’r copa i Drws Bach, dros Drysgol ac i lawr llwybr mawn Hengwm yn ôl i’r maes parcio erbyn 4.30. Cyrhaeddodd Rhys, Hywel ac Eryl yn ôl yno rhyw dri-chwarter awr yn ddiweddarach a chriw’r ‘pick-up’ eisoes wedi bod a mynd.

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Hywel Watkin a Huw Williams ar FLICKR