HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Siabod 21 Rhagfyr



Daeth 8 ohonom ynghyd i Gapel Curig ar fore gwlyb y Sadwrn cyn y dolig – sef y rhai a oedd yn well ganddynt gerdded mynydd yn hytrach an cherdded ar hyd y stryd fawr yn y glaw!

Gwella wnaeth y tywydd wrth i ni nesau at y copa. Paned yng nghysgod Daear Ddu – pam du tybed, mae’r graig yn eithaf golau – cyn ei gwneud hi am y copa.

Daeth Myfyr i'n cyfarfod pan oeddem ar ein ffordd i lawr.

Caffi Siabod wedyn am baned cyn troi am adre.

Adroddiad gan Raymond, Llanfairpwll 

Lluniau gan Raymond ar FLICKR