HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penrhyn Gwyr 17 Awst


Dyma gyrraedd maes parcio wrth ochr ffordd rhwng Burry Green a Cheriton (SS 449 923) ar fore heulog sych. Dyma anelu yn gyntaf at copa rhostir Ryer gyda golygfeydd bendigedig o dywod Llanrhidian a’r afon Llwchwr.

Dyma droi yn nôl a’r hyd y ffordd tua’r Gorllewin ac anelu at gopa Bryn Llanmadoc. Wrth gerdded i fyny dyma fynd heibio adfail hen ysgol Llanmadoc. Lle bendigedig i gael addysg cynnar! Ymlaen tua chopa Bryn Gaer Llanmadoc a golygfeydd hyfryd o’r ardal yn ymddangos.

Wedi paned a seibiant lawr a ni i bentref Llangennith a cherdded tua chopa rhostir Rhossili. Yma gwelir gweddillion tomeni claddu.

Wrth gyrraedd y copa dyma o bosib edrych ar draeth hyfrytaf Cymru – traeth Rhossili a Phenrhyn Gwyr.

Dyma adael y copa ac anelu i’r Dwyrain tuag at Rhostir Down – bryn gaer arall. Amser cinio cyn anelu nôl at y man cychwyn.

Taith o thua deg milltir gan gyrraedd pedwar copa uchaf yr ardal. Ffordd ac ardal gwych i dreulio diwrnod hyfyd o Hâf.

Diolch yn fawr i Alison am arwain y daith a chwmni Enid a Rhun.

Adroddiad gan Dewi Hughes

Lluniau gan Dewi ar FLICKR